CYF:66-2011-7465705 - Pennawd y pwnc e-byst
Dy sylw: It would be helpful if emails began with the language in english, or at least had the subject line in english, especially or specifically for the english speaking students. During a busy schedule it is difficult to know which emails are important to read and which you can wait to reply to, it would be easier if we could read them without having to open them completely. Its wonderful to have a bilingual campus however this particular order of language in emails is not helpful and is slightly counterproductive. If they were switched so english was first and welsh second it would be much more helpful. Thanks so much
Ein hymateb:
Mae prifysgolion yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth ar y Gymraeg a ddaeth i rym yn Ebrill 2018. Mae'r ddeddfwriaeth yn gosod y safonau am y gwasanaethau y mae angen eu darparu yn y Gymraeg, sydd wedi'u seilio ar yr egwyddor greiddiol bod rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol. Heblaw am y ddeddfwriaeth yng Nghymru, mae gan Brifysgol Aberystwyth ymroddiad i'r Gymraeg sydd wedi'i hen sefydlu, ac rwy'n falch iawn eich bod yn gefnogol i'r safbwynt hwnnw. Er mwyn cydymffurfio â gofyniad penodol yn y ddeddfwriaeth, mae gohebiaeth y Brifysgol yn gyffredinol yn rhoi'r testun Cymraeg ar y chwith, a'r Saesneg ar y dde. Lle y bo modd, mae'r Brifysgol yn cofnodi dewis iaith unigolion ar gyfer gohebiaeth ac mae'n ceisio anfon y wybodaeth yn newis iaith yr unigolyn, boed honno'n Gymraeg neu'n Saesneg. Serch hynny, ar hyn o bryd, pan anfonwn negeseuon at sylw pawb maent yn cael eu hanfon yn ddwyieithog ac mae hynny'n cynnwys pennawd y Pwnc. Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth ac fe edrychwn yn ofalus ar sut y defnyddir pennawd y Pwnc, a hynny mewn modd sy’n dal i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.