CYF:66-2012-8651202 - Tocynnau rodd

Dy sylw: I wanted to say that me and other students do not like that every prize draw or similar things always give out Amazon vouchers. Instead, we think it would be better if you gave out vouchers for local restaurants or takeout (especially good during the pandemic to support the local businesses), or maybe to some more ethical businesses. Thank you.

Ein hymateb:

Diolch ichi am eich neges ynghylch y gwobrau cyswllt. Mae'r Brifysgol yn cydnabod eich pryderon moesegol ynghylch defnyddio tocynnau Amazon ar gyfer gwobrau, ac mae'n bwnc rydym wedi ei ystyried yn y gorffennol. Serch hynny, er y byddem wrth ein bodd yn cynnig taliadau Cerdyn Aber neu docynnau busnesau lleol yn wobrau, rydym yn poeni - gan y bydd y gwobrau hyn yn cael eu hennill gan fyfyrwyr yn eu blwyddyn derfynol a fydd ar fin gadael Aberystwyth (neu, yn wir, fel sydd wedi digwydd eleni, efallai'n byw a dysgu y tu allan i Aberystwyth) - y byddent yn ei chael hi'n anodd defnyddio gwobrau o'r fath. Er hynny, fe sicrhawn y byddwn ni'n ystyried amrywiaeth o wobrau, gan gadw mewn cof na fydd pawb yn yr ardal ac fe fyddwn ni hefyd yn ystyried dod o hyd i gwmnïau moesegol addas. Gobeithio y bydd hyn yn lleddfu'ch pryderon i ryw raddau.