Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol
-
1. Rhagair
1.1 Trwy gydol y ddogfen hon mae'r gair ‘Prifysgol’ yn cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth. Gallai'r ymadroddion 'Cadeirydd y Bwrdd Arholi', 'Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)', ‘Cofrestrydd Academaidd’ a 'Dirprwy Is-Ganghellor' gynnwys aelodau penodedig o'r staff sy'n gweithredu ar ran yr aelodau staff hyn.
1.2 Dylai myfyrwyr ac aelodau o staff ddarllen y ddogfen hon ar y cyd â'r adran berthnasol yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
1.3 Bydd y Brifysgol fel arfer yn datrys pob achos o fewn chwe wythnos o anfon yr hysbysiad cyntaf at y myfyriwr am yr honiad.
1.4 Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod cael eich cyfeirio at y broses Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn aml yn cael ei ragflaenu gan, neu’n cyd-fynd ag, adfyd arall a dwysâd mewn gofid. Felly, rydym yn eich annog i ofyn am gymorth cyfrinachol gan y Gwasanaeth Lles, nad yw'n datgelu ei waith â’r brifysgol yn ehangach ac eithrio os oes risg diogelu difrifol. Efallai yr hoffai myfyrwyr chwilio am gymorth gan Undeb y Myfyrwyr hefyd, a all helpu drwy eich tywys drwy’r broses a’ch cefnogi drwy ddod i’r cyfarfod panel gyda chi.
-
2. Diffiniad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
2.1 Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yw cyflawni unrhyw weithred lle gall unigolyn sicrhau mantais na chaniateir iddo ef/iddi hi ei hun neu i rywun arall. Bydd y Rheoliad hwn yn berthnasol, a gellir canfod bod myfyriwr wedi cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, beth bynnag fo bwriad y myfyriwr a chanlyniad y weithred, a boed y myfyriwr yn gweithredu ar ei ben/phen ei hun neu ar y cyd ag unigolyn arall/unigolion eraill. Gellir cynnwys unrhyw weithredoedd yn y diffiniad hwn, boed hwy’n digwydd yn ystod neu mewn perthynas ag arholiad ffurfiol, darn o waith cwrs, cyflwyno tystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall i Fyrddau Arholi, neu unrhyw fath ar asesiad a wneir wrth ymgeisio am gymhwyster neu ddyfarniad gan y Brifysgol.
2.2 Mae'r Brifysgol yn cydnabod y categorïau canlynol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a gall achosion eraill ddod o fewn i ddiffiniad cyffredinol Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
(i) Llên-ladrad
Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys
- dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
- copïo gwaith rhywun arall
- cyfieithu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny
- aralleirio neu addasu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny'n gywir
- defnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho o'r rhyngrwyd heb gydnabod hynny
- defnyddio deunydd a gafwyd gan fanc traethodau neu asiantaethau tebyg
- cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun
(ii) Cydgynllwynio
Mae cydgynllwynio'n digwydd pan fydd gwaith a gyflawnir gan eraill neu gydag eraill yn cael ei gyflwyno gan honni mai gwaith un unigolyn ydyw. Os yw gwaith un neu fwy o unigolion yn cael ei gyflwyno yn enw rhywun arall a bod yr awdur/awduron gwreiddiol yn ymwybodol o hynny, mae'n bosibl yr ystyrir bod pawb fu ynghlwm â hyn yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Mae’n bosibl yr ystyrir bod myfyrwyr sy'n llwytho copïau o'u haseiniadau eu hunain (neu aseiniadau pobl eraill) i safleoedd rhannu ffeiliau academaidd wedi cyflawni ymddygiad academaidd annerbyniol ar y sail bod gweithgaredd o'r fath yn hwyluso llên-ladrad ac yn gyfystyr â chydgynllwynio, ac eithrio lle caniateir hyn yn benodol gan yr adran
Mae enghreifftiau o gydgynllwynio yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i)
- Dau neu fwy o fyfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cyflwyno'r gwaith fel eu gwaith eu hunain
- Rhannu data neu wybodaeth arall sy'n cael ei chyflwyno heb yn wybod i’r awduron gwreiddiol neu heb eu cydnabod
- Rhannu atebion yn ystod arholiad neu asesiad wedi'i amseru ar-lein
- Cyflwyno enghreifftiau o waith i wefannau rhannu ffeiliau academaidd
(iii) Ffugio tystiolaeth neu ddata
Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath mewn gwaith i'w asesu yn cynnwys gwneud honiadau ffug mai chi gyflawnodd arbrofion, arsylwadau, cyfweliadau neu ddulliau eraill o grynhoi a dadansoddi data. Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath hefyd yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth ffug neu dystiolaeth a ffugiwyd ynglŷn ag amgylchiadau arbennig i Banel Apêl neu Fwrdd Arholi.
(iv) Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol
Mae enghreifftiau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol yn cynnwys y canlynol:
- mynd ag unrhyw ffurf anawdurdodedig ar ddeunydd i mewn i ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig, megis llyfr, llawysgrif, data neu bapurau rhydd, dyfais electronig, gwybodaeth a geir trwy unrhyw ddyfais electronig, neu unrhyw ffynhonnell o wybodaeth anawdurdodedig, ni waeth a yw'r deunyddiau hyn yn berthnasol i'r pwnc dan sylw ai peidio
- copïo gwaith gan, neu gyfathrebu ag, unrhyw berson arall yn yr ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig, ar wahân i'r hyn a awdurdodir gan oruchwyliwr
- cyfathrebu'n electronig ag unrhyw un arall, ar wahân i'r hyn a awdurdodir gan oruchwyliwr
- esgus bod yn ymgeisydd penodol mewn arholiad neu ganiatáu i rywun arall gymryd eich lle gan esgus mai chi ydyw
- cyflwyno sgript arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw, er bod y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau anawdurdodedig
- peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig i ymgeiswyr mewn arholiadau ffurfiol, nac â chyfarwyddiadau llafar gan oruchwylwyr yr arholiadau
Ystyrir bod dyfais electronig o fewn y Rheoliad os yw’n gallu gwneud unrhyw un o'r pethau canlynol: cyfathrebu’n electronig o fewn neu oddi allan i ystafell arholi, cysylltu â’r rhyngrwyd, dal data neu wybodaeth ddigidol, gwneud recordiadau sain, cadw cof digidol neu recordiadau sain, llwytho data neu wybodaeth ddigidol i ddyfais arall, arddangos data neu wybodaeth ddigidol neu chwarae recordiadau sain.
Bydd pob un o’r canlynol yn cael eu hystyried yn y categori hwn, ond nid yw’r rhestr yn gyflawn a bydd dyfeisiau eraill nas manylir yn eu cylch yn dod o fewn y Rheoliad: ffôn symudol, oriawr glyfar, gliniadur, cyfrifiadur llechen, dyfais storio data, derbynnydd Bluetooth, clustffonau, i-pod, cyfrifiannell electronig ac eithrio’r rhai a ganiateir yn benodol ar gyfer arholiadau prifysgol.
(v) Ailgylchu data neu destun
Ailgylchu data neu destun mewn mwy nag un asesiad, pan fo'r Adran yn benodol yn peidio â chaniatáu hyn.
-
3. Adroddiad am Amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn Arholiadau
3.1 Os amheuir bod myfyriwr yn cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiad ffurfiol, dylid rhoi gwybod i'r myfyriwr, ym mhresenoldeb tyst os oes modd, y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ynglŷn â'r amgylchiadau. Dylid caniatáu, fodd bynnag, i'r myfyriwr barhau â'r arholiad ac unrhyw arholiad(au) wedi hynny heb ragfarnu unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud. Fodd bynnag, nid yw methu â rhoi rhybudd o'r fath yn rhagfarnu'r camau a gymerir wedi hynny.
3.2 Pan fydd ymgeisydd yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig neu lafar mewn arholiad dylai'r goruchwyliwr roi gwybod i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) am yr amgylchiadau, a bydd ef/hi yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu ar gosb (gweler adran 7).
3.3. Os canfyddir bod gan fyfyriwr yn ei feddiant/meddiant unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig (yn unol â’r diffiniad yn adran 2.1 (iv)), nad yw wedi cael ei defnyddio neu lle na cheir unrhyw dystiolaeth ei bod wedi cael ei defnyddio, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y ddyfais ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau). Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu a ddylid pennu cosb (gweler adran 7).
3.4 Os ceir amheuaeth/tystiolaeth bod y ddyfais electronig wedi cael ei defnyddio o bosibl, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y ddyfais ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) a fydd, cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd i'w gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.
3.5 Os canfyddir bod gan fyfyriwr ddeunydd anawdurdodedig, ac y gellir gweld yn amlwg nad yw'n berthnasol i'r papur arholiad, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y deunydd ac yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau), a fydd yn cyfweld â'r myfyriwr ac yn penderfynu a yw'r achos yn cael ei gadarnhau.
3.6 Os ceir amheuaeth/tystiolaeth bod y deunydd anawdurdodedig yn uniongyrchol berthnasol i'r arholiad, bydd y goruchwyliwr yn cymryd y deunydd a bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau), cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.
3.7 Mewn achosion lle bydd myfyriwr wedi ysgrifennu ar ei gorff/chorff, gellir tynnu llun o hynny yn dystiolaeth.
3.8 Gall y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) ofyn i aelod o staff o'r adran academaidd ddod i'r arholiad a chadarnhau a yw'r deunydd anawdurdodedig yn berthnasol i'r pwnc/arholiad.
3.9 Pan fydd goruchwyliwr yn amau mathau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol na restrwyd uchod, rhoddir gwybod am hyn i'r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) a fydd, cyn gynted â phosibl, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth a gasglwyd, i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn ei gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.
-
4. Rhoi gwybod am Amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn amgylchiadau heblaw arholiadau
4.1 Dylai pob aelod o staff sy’n amau bod Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi digwydd gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol, ynghyd â'r dystiolaeth ddogfennol berthnasol, yn unol â’r Canllawiau ar Ymddygiad Academaidd.
4.2 Cyfrifoldeb yr aelodau o staff sy’n cyflwyno adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol fydd darparu’r holl dystiolaeth ddogfennol berthnasol, gan gynnwys datganiadau tystion a chopïau o ffynonellau yr amheuir iddynt gael eu defnyddio.
4.3 Yn achos prawf sy'n cyfrannu at ganlyniad terfynol y modiwl, a gynhelir dan adain yr Adran, bydd y goruchwyliwr yn rhoi gwybod i Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol.
4.4 Dylai arholwr mewnol neu allanol neu unrhyw unigolyn arall sydd, yn ystod y cyfnod marcio neu wedi hynny, yn amau bod myfyriwr wedi cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, roi gwybod am y mater yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol cyn gynted â phosibl.
-
5. Amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn graddau ymchwil
5.1 Os oes aelod o staff neu arholwr yn amau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn traethawd ymchwil neu waith arall a gyflwynir i’w arholi am radd ymchwil, cyfeirir yr achos i’r Gofrestrfa Academaidd, a fydd yn cynnull Panel y Brifysgol i ystyried yr achos, yn unol ag adran 11 y Rheoliad.
5.2 Os oes aelod o staff neu arholwr yn amau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn modiwlau hyfforddiant ymchwil trwy gwrs y mae’r myfyriwr ymchwil yn eu dilyn, dylid rhoi gwybod am yr honiad ac ymchwilio iddo yn yr un modd ag y gwneir yn achos modiwlau a ddysgir (gweler y manylion yn adrannau 2-11). Gall y Gyfadran y mae'r myfyriwr wedi cofrestru ynddi gynnull panel os oes angen Panel Cyfadran.
-
6. Camau Cychwynnol i'w cymryd gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi Perthnasol
6.1 Pan fydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol yn derbyn adroddiad ysgrifenedig am amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol bydd yn adolygu’r adroddiad a’r dystiolaeth sydd wedi ei darparu, ac yn rhoi un o’r gweithdrefnau canlynol ar waith, ar ôl ymgynghori â’r adran berthnasol yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
i) Ymchwiliad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi;
ii) Ymchwiliad gan Banel y Gyfadran;
iii) Ymchwiliad gan Banel y Brifysgol.
-
7. Ymchwiliad gan y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau)
7.1 Pan fydd y Cofrestrydd Cynorthwyol yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiad ffurfiol, bydd yn ystyried yr achos a amheuir ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd.
7.2 Os bodlonir y Cofrestrydd Cynorthwyol, ar sail pob tebygolrwydd, bod yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i gadarnhau, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad a'r gosb a bennir. Bydd y myfyriwr hefyd yn cael gwybod bod ganddo/ganddi hawl i wneud cais am adolygiad neu ofyn i'r achos gael ei gyfeirio at Banel y Gyfadran er mwyn ymchwilio iddo.
7.3 Os bodlonir y Cofrestrydd Cynorthwyol nad oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na chymerir camau pellach.
-
8. Ymchwiliad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi
8.1 Pan fydd y Cadeirydd yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, bydd yn ystyried yr achos a amheuir ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd.
8.2 Os bodlonir y Cadeirydd, ar sail pob tebygolrwydd, bod yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i gadarnhau, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad a'r gosb a bennir. Bydd y myfyriwr hefyd yn cael gwybod bod ganddo/ganddi hawl i wneud cais am adolygiad neu ofyn i'r achos gael ei gyfeirio at Banel y Gyfadran er mwyn ymchwilio iddo.
8.3 Wedi i’r canlyniad gael ei gadarnhau i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau a chanddynt achrediad proffesiynol, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y cynllun, a dylai’r cydlynydd ystyried a oes angen cyfeirio’r achos at y panel addasrwydd i ymarfer hefyd.
8.4 Os bodlonir y Cadeirydd nad oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na chymerir camau pellach.
-
9. Ymchwiliad gan Banel y Gyfadran
9.1 Pan fydd y Gyfadran yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, bydd yn cynnull panel bychan i ymchwilio i'r achos. Bydd y panel yn cynnwys Cadeirydd y Bwrdd Arholi ac o leiaf un aelod o'r staff academaidd nad yw'n gysylltiedig â'r asesiad dan sylw. Os oes modd, ni ddylai aelodau’r panel fod wedi ymwneud ag achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ar gyfer yr un myfyriwr.
9.2 Ni ddylai'r staff sydd wedi gwneud yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol fod yn aelodau o'r panel ac ni ddylent gyfrannu at y penderfyniad o gwbl.
9.3 Bydd y Gyfadran yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am ddyddiad, lleoliad ac amser cyfarfod y panel, a bod ganddo/ganddi gyfle i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Dylid rhoi gwybod i’r myfyriwr cyn y cyfarfod pwy yw aelodau’r panel, a gall y myfyriwr dynnu sylw at wrthdaro buddiannau cyn y cyfarfod.
9.4 Bydd gan y myfyriwr gyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn cyfarfod y panel, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig.
9.5 Anfonir tystiolaeth ddogfennol at y myfyriwr cyn dyddiad y cyfarfod a'i dosbarthu i aelodau'r panel. Os darperir tystiolaeth bellach ar ddyddiad y cyfarfod, fe ellir ei chyflwyno i'r panel, ond dim ond gyda chaniatâd penodol y Cadeirydd.
9.6 Gall y myfyriwr gael ei gynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
9.7 Os nad yw myfyriwr yn bresennol mewn cyfarfod o'r panel heb fod ganddo/ganddi reswm da, gall y cyfarfod fynd yn ei flaen hebddo/hebddi.
-
10. Cyfweliad i bennu Dilysrwydd y Gwaith
10.1 Pan fydd Cadeirydd Bwrdd Arholi yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle ceir ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, ac os nad yw’r aelod o staff yn gallu dod o hyd i dystiolaeth ddogfennol i gefnogi achos o YAA, er enghraifft os amheuir bod y gwaith wedi'i gael o fanc traethodau neu wedi’i gynhyrchu drwy feddalwedd AI, gall benderfynu y dylid cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith.
10.2 Bydd yr Adran yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am ddyddiad, lleoliad ac amser y cyfweliad a bod ganddo/ganddi gyfle i fod yn bresennol yn y cyfweliad.
10.3 Oherwydd bod rheswm i gredu nad gwaith y myfyriwr ei hun yw’r gwaith yn ei gyfanrwydd, diben y cyfweliad yw profi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd ac i roi cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef/gwaith hi yw'r gwaith dan sylw, cyn ymchwiliad gan banel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (os yw’n briodol).
10.4 Bydd y panel cyfweld yn cynnwys cadeirydd sy'n annibynnol ar yr honiad, ac arbenigwr yn y pwnc (fel arfer y marciwr neu gydlynydd y modiwl). Rhaid cadw cofnod o'r cyfweliad ar ffurf cofnodion ysgrifenedig, a gellir eu hychwanegu at y dystiolaeth ar gyfer yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
10.5 Bydd cyfle i'r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ynghylch yr honiad gan gynnwys gwaith paratoi megis drafftiau ac adborth. Gall myfyrwyr gael eu cynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel cyfweld gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
10.6 Wedi'r cyfweliad bydd y panel yn rhoi eu barn am wybodaeth y myfyriwr am y gwaith ac yn rhoi'r rhesymau dros ddod i'r casgliad hwn.
10.7 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu nad yw'r myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/heiddo hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at Banel YAA er mwyn cynnal ymchwiliad i honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, ynghyd â manylion yr honiad a'r adroddiad o'r cyfweliad.
10.8 Pan fo myfyriwr yn cyfaddef eu bod yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhan o’r broses gyfweld, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at y Gofrestrfa Academaidd i benderfynu ar y gosb briodol. Ni fydd yn ofynnol i’r panel YAA gwrdd â'r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ofyn i’r panel YAA ystyried eu hachos os yw'r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad y cyfweliad.
10.9 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu bod y myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y modiwl y dylid marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd gan yr Adran a rhoi gwybod i'r myfyriwr na chymerir unrhyw gamau pellach.
-
11. Ymchwiliad gan Banel Prifysgol
11.1 Bydd y Brifysgol yn sefydlu Panel Sefydlog er mwyn ymchwilio i achosion lle amheuir Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Bydd pob Cyfadran yn enwebu aelod o staff academaidd i wasanaethu ar y Panel Sefydlog.
11.2 Pan dderbynnir honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan Gadeirydd Bwrdd Arholi, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trefnu cynnull Panel Prifysgol. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig yn ymwneud â’r achos, ynghyd â’r holl dystiolaeth ysgrifenedig berthnasol.
11.3 Bydd tri aelod ar Banel y Brifysgol, wedi'u dethol o'r Panel Sefydlog; penodir un ohonynt yn Gadeirydd. Ni fydd aelod o unrhyw Banel Prifysgol yn dod o Adran(nau) y myfyriwr ac os oes modd ni ddylent fod wedi ymwneud ag achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ar gyfer yr un myfyriwr.
11.4 Bydd Ysgrifennydd Panel y Brifysgol yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am ddyddiad, lleoliad ac amser cyfarfod y panel, a bod ganddynt gyfle i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Dylid rhoi gwybod i’r myfyriwr pwy yw aelodau’r panel cyn y cyfarfod, a gall y myfyriwr dynnu sylw at wrthdaro buddiannau cyn y cyfarfod.
11.5 Bydd cyfle i'r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn cyfarfod y panel, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig.
11.6 Anfonir tystiolaeth ddogfennol at y myfyriwr cyn dyddiad y cyfarfod a'i dosbarthu i aelodau'r panel. Os darperir tystiolaeth bellach ar ddyddiad y cyfarfod, fe ellir ei chyflwyno i'r panel, ond dim ond gyda chaniatâd penodol y Cadeirydd.
11.7 Gall y myfyriwr gael ei gynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
11.8 Os nad yw myfyriwr yn bresennol mewn cyfarfod o'r panel heb reswm da, gall y cyfarfod fynd yn ei flaen yn ei absenoldeb/habsenoldeb.
-
12. Swyddogaethau Panel y Gyfadran/Brifysgol
12.1 Dyma fydd swyddogaethau’r cyfryw baneli:
i) ystyried y dystiolaeth a gyflwynir iddo ynghylch yr amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;
ii) penderfynu a yw’r honiad wedi’i gadarnhau ar sail pob tebygolrwydd;
iii) penderfynu, mewn achosion lle mae’r honiad wedi’i gadarnhau, pa gosb i’w phennu.
-
13. Y drefn yn ystod y cyfarfod
13.1 Os ceir amheuaeth bod dau fyfyriwr neu ragor ynghlwm ag achosion cysylltiedig o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, gall Cadeirydd y panel benderfynu ymdrin â’r achosion ar y cyd. Fodd bynnag, rhoddir cyfle i bob myfyriwr wneud cais ar i’r achosion gael eu gwrando ar wahân.
13.2 Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno crynodeb o'r achos yn erbyn y myfyriwr, gan gyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd i'w hystyried gan y panel. Caiff y panel ofyn cwestiynau i'r myfyriwr.
13.3 Bydd gan y myfyriwr yr hawl i glywed yr holl dystiolaeth sy'n ymwneud â'r achos cyn ymateb i'r honiad, ac i fod yn bresennol i gyflwyno ymateb i'r panel. Ni cheir cyflwyno tystiolaeth ddogfennol ychwanegol, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig, i'r panel ar ddiwrnod y cyfarfod heb gael caniatâd penodol y Cadeirydd.
13.4 Pan fydd y dystiolaeth wedi'i chyflwyno ac ymateb y myfyriwr wedi'i gwblhau, bydd pawb, ac eithrio aelodau'r panel, a'r ysgrifennydd (os yw'n bresennol), yn gadael y cyfarfod.
13.5 Gall y Panel, ar ôl cyfarfod y panel, gysylltu â'r adran academaidd berthnasol i ofyn am ddilysiad ar gyfer unrhyw hawliadau a wneir gan y myfyriwr, neu ofyn am ragor o wybodaeth y gallai ei hystyried wrth benderfynu ar ganlyniad.
13.6 Os bodlonir y panel, ar sail pob tebygolrwydd, bod yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i gadarnhau, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir, ac yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'r gosb a bennir, a hefyd am yr hawl i wneud cais am adolygiad.
13.7 Wedi i’r canlyniad gael ei gadarnhau i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau a chanddynt achrediad proffesiynol, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y cynllun, a dylai’r cydlynydd ystyried a oes angen cyfeirio’r achos at y panel addasrwydd i ymarfer hefyd.
13.8 Os bodlonir y panel nad oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i'r Gofrestrfa Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gwirio bod y drefn wedi'i dilyn yn gywir cyn rhoi gwybod i'r myfyriwr am y canlyniad, a'i hysbysu na chymerir camau pellach.
13.9 Ceir rhoi gwybod i'r myfyriwr ar lafar yn anffurfiol am y canlyniad, ni waeth ai canfyddiad y panel yw bod yr achos wedi'i gadarnhau ai peidio; ond, ni thrafodir y penderfyniad â'r myfyriwr.
13.10 Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall unrhyw honiadau a wneir ganddynt yn ystod cyfweliad i bennu dilysrwydd, neu i banel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA) neu unrhyw ymchwiliad i YAA honedig gael eu gwirio gyda’r adran academaidd yn dilyn y cyfweliad, y panel neu’r ymchwiliad. Gall unrhyw honiadau ffug arwain at gamau disgyblu pellach. Os nodir honiadau ffug ar ôl i gosb gael ei phennu, gellir adolygu'r gosb.
-
14. Cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn cynlluniau gradd trwy gwrs (israddedig ac uwchraddedig)
14.1 Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn pennu un o'r cosbau canlynol. Nid yw'r rhain yn rhan o'r system bwyntiau ac ni fydd y troseddau'n cyfrif tuag at honiadau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol.
(i) Y gosb am drosedd gyntaf fydd rhoi rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i'r ymgeisydd.
(ii) Y gosb am ail drosedd neu drosedd ddilynol fydd uchafswm marc o 39 lle mai 40 yw’r marc pasio neu 49 lle mai 50 yw’r marc pasio ar gyfer yr asesiad. Caniateir i fyfyrwyr ailsefyll am farc wedi'i gapio os byddant yn methu'r modiwl, gan ddibynnu a oes cyfleoedd i ailsefyll ar gael iddynt.
14.2 Bydd Cadeiryddion Byrddau Arholi a phaneli Cyfadran a Phrifysgol yn pennu un o’r cosbau a nodir yn y Canllawiau ar Ymddygiad Academaidd. Pennir y cosbau ar sail system sy’n seiliedig ar bwyntiau, gan ystyried yr elfennau a ganlyn:
(i) Hanes blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;
(ii) Graddau a difrifoldeb yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;
(iii) Y lefel astudio.
14.3 Ni ddylid ystyried honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wrth benderfynu a gafwyd ymddygiad o’r fath y tro hwn, ac ni ddylid tynnu sylw paneli at honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol hyd nes y penderfynir a yw’r honiad yn cael ei gadarnhau ai peidio. Wedi i benderfyniad gael ei wneud, gall y panel ystyried achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a gafodd eu cadarnhau wrth bennu’r gosb, fel y nodir yn y system sy'n seiliedig ar bwyntiau.
14.4 Ni all paneli gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth benderfynu a gafwyd Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Er hynny, gall paneli ystyried amgylchiadau personol eithriadol wrth bennu cosbau, os gellir dangos bod y rhain yn berthnasol i’r achos. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r myfyriwr gyflwyno rheswm da i ddangos pam na ellid bod wedi cyflwyno amgylchiadau personol o’r fath i’r Gyfadran cyn hyn er mwyn gallu ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, neu addasiadau eraill i’r asesiad dan sylw. Bydd argymhellion i leihau’r cosbau ar sail amgylchiadau arbennig yn cael eu cyflwyno i’r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i’r Cofrestrydd Academaidd (neu enwebai) eu hystyried.
14.5 Ni chaniateir i baneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth benderfynu a oes Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi digwydd. Fodd bynnag, gall paneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth bennu cosbau os yw'r gosb yn debygol o gael effaith anfwriadol ar y myfyriwr. Bydd argymhellion i leihau cosbau ar sail effaith anfwriadol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i’r Cofrestrydd Academaidd (neu enwebai) eu hystyried.
14.6 Pennir y cosbau yn unol â’r system gosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau. Mewn achosion eithriadol, gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol / Cadeirydd Panel y Gyfadran neu’r Brifysgol argymell cosb fwy difrifol. Dylid cyflwyno argymhellion i’r Gofrestrfa Academaidd, gan ddarparu achos ysgrifenedig llawn i gefnogi’r argymhellion. Mewn achosion o’r fath bydd Cadeirydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn pennu un o’r cosbau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:
(i) Diarddel yr ymgeisydd o’r Brifysgol am gyfnod penodol neu yn barhaol;
(ii) Gwahardd y myfyriwr o unrhyw arholiad yn y Brifysgol yn y dyfodol.
-
15. Cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan fyfyrwyr am raddau ymchwil uwchraddedig
15.1 Bydd y Brifysgol yn pennu un o’r cosbau a ganlyn am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn traethawd ymchwil neu mewn gwaith arall a gyflwynir i'w arholi am radd ymchwil:
i) Methu’r traethawd ymchwil, gyda chyfle i’w ailgyflwyno;
ii) Methu’r traethawd ymchwil, heb gyfle i’w ailgyflwyno.
15.2 Yn achos modiwlau hyfforddiant ymchwil bydd Cadeiryddion Byrddau Arholi a phaneli y Gyfadran a’r Brifysgol yn pennu un o’r cosbau canlynol, gan ystyried graddau a difrifoldeb yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a hanes blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
i) Am drosedd gyntaf, ar wahân i honiadau difrifol lle byddai angen panel prifysgol fel arfer, marc o sero i'r asesiad ac amod i ailsefyll yr asesiad am farc modiwl wedi'i gapio.
ii) Am ail drosedd, neu honiad difrifol lle bydd angen panel prifysgol, marc o sero am y modiwl ac amod i ailsefyll y modiwl.
iii) Am drydedd drosedd, diarddel y myfyriwr o'r brifysgol yn barhaol.
Yn achos y ddwy gosb gyntaf, anfonir adroddiad i Bwyllgorau Monitro’r Gyfadran berthnasol ac Ysgol y Graddedigion a'u hystyried wrth benderfynu a yw myfyriwr wedi dangos digon o gynnydd i gael symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
-
16. Camau i’w cymryd yn dilyn cyfarfod y panel
16.1 Ni fydd y Brifysgol yn gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus ynglŷn â phenderfyniadau paneli Cyfadran/Prifysgol oni bai bod myfyriwr y gwnaed penderfyniad yn ei gylch/chylch yn gofyn i benderfyniad o’r fath gael ei gyhoeddi.
-
17. Rhestrau Pasio
17.1 Os oes achos o amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn cael ei ymchwilio adeg cyfarfod y Bwrdd Arholi perthnasol, bydd y Bwrdd yn gohirio ystyried gwaith y myfyriwr hyd y bydd y Gofrestrfa Academaidd wedi cyfleu’r canlyniad i’r ymgeisydd ac i Gadeirydd y Bwrdd Arholi.
17.2 Os oes achos yn cael ei ymchwilio pan fo’n bryd cwblhau’r rhestr basio, bydd enw’r ymgeisydd dan sylw yn cael ei ddal yn ôl o’r rhestr basio ac fe gyhoeddir rhestr basio atodol wedi hynny fel y bo angen.
17.3 Os oes achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn codi ar ôl cyhoeddi’r rhestr basio wreiddiol, neu ar ôl i gymhwyster gael ei gyflwyno, bydd gan y Bwrdd Arholi yr awdurdod i ddileu neu newid canlyniad a gadarnhawyd yn flaenorol a chyhoeddi rhestr basio atodol.
-
18. Adolygiad
18.1 Os yw myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad ymchwiliad i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, gall ofyn am adolygiad, a fydd yn cael ei gynnal gan Ddirprwy Is-Ganghellor. Mae'r drefn ar gyfer Adolygiadau Terfynol ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/fr/
-
19. Dull Adrodd Ffurfiol
19.1 Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cadw cofnodion o’r holl ymchwiliadau i amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ac yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’w ystyried gan Fwrdd Academaidd y Brifysgol.
-
20. Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Bydd gwybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chadw yn ôl yr hyn y bernir yn angenrheidiol er mwyn i'r Brifysgol gyflawni tasgau a wneir er budd y cyhoedd (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Erthygl 6(1)(e)) ac yn unol â'i rhwymedigaethau cytundebol (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Erthygl 6(1)(b)). Bydd yn cael ei chadw am flwyddyn ar ôl ichi gwblhau eich cwrs, oni bai bod Adolygiad Terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Brifysgol, neu fod cwyn yn cael ei chyflwyno i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch, ac mewn achos o'r fath mae'n bosibl y bydd y cyfnod cadw'n cael ei ymestyn.
-