14. Cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn cynlluniau gradd trwy gwrs (israddedig ac uwchraddedig)

14.1 Bydd y Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) yn pennu un o'r cosbau canlynol. Nid yw'r rhain yn rhan o'r system bwyntiau ac ni fydd y troseddau'n cyfrif tuag at honiadau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol.

(i) Y gosb am drosedd gyntaf fydd rhoi rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i'r ymgeisydd.

(ii) Y gosb am ail drosedd neu drosedd ddilynol fydd uchafswm marc o 39 lle mai 40 yw’r marc pasio neu 49 lle mai 50 yw’r marc pasio ar gyfer yr asesiad. Caniateir i fyfyrwyr ailsefyll am farc wedi'i gapio os byddant yn methu'r modiwl, gan ddibynnu a oes cyfleoedd i ailsefyll ar gael iddynt.

14.2 Bydd Cadeiryddion Byrddau Arholi a phaneli Cyfadran a Phrifysgol yn pennu un o’r cosbau a nodir yn y Canllawiau ar Ymddygiad Academaidd.  Pennir y cosbau ar sail system sy’n seiliedig ar bwyntiau, gan ystyried yr elfennau a ganlyn:

(i) Hanes blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;

(ii) Graddau a difrifoldeb yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol;

(iii) Y lefel astudio.

14.3 Ni ddylid ystyried honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wrth benderfynu a gafwyd ymddygiad o’r fath y tro hwn, ac ni ddylid tynnu sylw paneli at honiadau blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol hyd nes y penderfynir a yw’r honiad yn cael ei gadarnhau ai peidio. Wedi i benderfyniad gael ei wneud, gall y panel ystyried achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a gafodd eu cadarnhau wrth bennu’r gosb, fel y nodir yn y system sy'n seiliedig ar bwyntiau.

14.4 Ni all paneli gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth benderfynu a gafwyd Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Er hynny, gall paneli ystyried amgylchiadau personol eithriadol wrth bennu cosbau, os gellir dangos bod y rhain yn berthnasol i’r achos. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r myfyriwr gyflwyno rheswm da i ddangos pam na ellid bod wedi cyflwyno amgylchiadau personol o’r fath i’r Gyfadran cyn hyn er mwyn gallu ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, neu addasiadau eraill i’r asesiad dan sylw. Bydd argymhellion i leihau’r cosbau ar sail amgylchiadau arbennig yn cael eu cyflwyno i’r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i’r Cofrestrydd Academaidd (neu enwebai) eu hystyried.

14.5 Ni chaniateir i baneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth benderfynu a oes Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi digwydd. Fodd bynnag, gall paneli ystyried yr effaith ar symud ymlaen wrth bennu cosbau os yw'r gosb yn debygol o gael effaith anfwriadol ar y myfyriwr. Bydd argymhellion i leihau cosbau ar sail effaith anfwriadol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn i’r Cofrestrydd Academaidd (neu enwebai) eu hystyried.

14.6 Pennir y cosbau yn unol â’r system gosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau. Mewn achosion eithriadol, gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol / Cadeirydd Panel y Gyfadran neu’r Brifysgol argymell cosb fwy difrifol. Dylid cyflwyno argymhellion i’r Gofrestrfa Academaidd, gan ddarparu achos ysgrifenedig llawn i gefnogi’r argymhellion. Mewn achosion o’r fath bydd Cadeirydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn pennu un o’r cosbau canlynol, neu gyfuniad ohonynt:

(i) Diarddel yr ymgeisydd o’r Brifysgol am gyfnod penodol neu yn barhaol;

(ii) Gwahardd y myfyriwr o unrhyw arholiad yn y Brifysgol yn y dyfodol.