9. Ymchwiliad gan Banel y Gyfadran
9.1 Pan fydd y Gyfadran yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, bydd yn cynnull panel bychan i ymchwilio i'r achos. Bydd y panel yn cynnwys Cadeirydd y Bwrdd Arholi ac o leiaf un aelod o'r staff academaidd nad yw'n gysylltiedig â'r asesiad dan sylw. Os oes modd, ni ddylai aelodau’r panel fod wedi ymwneud ag achosion blaenorol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ar gyfer yr un myfyriwr.
9.2 Ni ddylai'r staff sydd wedi gwneud yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol fod yn aelodau o'r panel ac ni ddylent gyfrannu at y penderfyniad o gwbl.
9.3 Bydd y Gyfadran yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am ddyddiad, lleoliad ac amser cyfarfod y panel, a bod ganddo/ganddi gyfle i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Dylid rhoi gwybod i’r myfyriwr cyn y cyfarfod pwy yw aelodau’r panel, a gall y myfyriwr dynnu sylw at wrthdaro buddiannau cyn y cyfarfod.
9.4 Bydd gan y myfyriwr gyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn cyfarfod y panel, gan gynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig.
9.5 Anfonir tystiolaeth ddogfennol at y myfyriwr cyn dyddiad y cyfarfod a'i dosbarthu i aelodau'r panel. Os darperir tystiolaeth bellach ar ddyddiad y cyfarfod, fe ellir ei chyflwyno i'r panel, ond dim ond gyda chaniatâd penodol y Cadeirydd.
9.6 Gall y myfyriwr gael ei gynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
9.7 Os nad yw myfyriwr yn bresennol mewn cyfarfod o'r panel heb fod ganddo/ganddi reswm da, gall y cyfarfod fynd yn ei flaen hebddo/hebddi.