10. Cyfweliad i bennu Dilysrwydd y Gwaith
10.1 Pan fydd Cadeirydd Bwrdd Arholi yn derbyn adroddiad ynghylch amheuaeth o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle ceir ansicrwydd ai gwaith y myfyriwr ei hun a gyflwynwyd, ac os nad yw’r aelod o staff yn gallu dod o hyd i dystiolaeth ddogfennol i gefnogi achos o YAA, er enghraifft os amheuir bod y gwaith wedi'i gael o fanc traethodau neu wedi’i gynhyrchu drwy feddalwedd AI, gall benderfynu y dylid cynnal cyfweliad i bennu dilysrwydd y gwaith.
10.2 Bydd yr Adran yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am ddyddiad, lleoliad ac amser y cyfweliad a bod ganddo/ganddi gyfle i fod yn bresennol yn y cyfweliad.
10.3 Oherwydd bod rheswm i gredu nad gwaith y myfyriwr ei hun yw’r gwaith yn ei gyfanrwydd, diben y cyfweliad yw profi gwybodaeth y myfyriwr am y gwaith a gyflwynwyd ac i roi cyfle i'r myfyriwr ddangos mai ei waith ef/gwaith hi yw'r gwaith dan sylw, cyn ymchwiliad gan banel Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (os yw’n briodol).
10.4 Bydd y panel cyfweld yn cynnwys cadeirydd sy'n annibynnol ar yr honiad, ac arbenigwr yn y pwnc (fel arfer y marciwr neu gydlynydd y modiwl). Rhaid cadw cofnod o'r cyfweliad ar ffurf cofnodion ysgrifenedig, a gellir eu hychwanegu at y dystiolaeth ar gyfer yr honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
10.5 Bydd cyfle i'r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ynghylch yr honiad gan gynnwys gwaith paratoi megis drafftiau ac adborth. Gall myfyrwyr gael eu cynrychioli gan gynghorydd o Undeb y Myfyrwyr. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu cynrychiolaeth gan unigolion eraill, ac fe ddylai unrhyw geisiadau am gynrychiolaeth o'r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Cadeirydd cyn i'r panel cyfweld gyfarfod. Fel arfer ni chaniateir cynrychiolaeth gyfreithiol yn y cyfarfod.
10.6 Wedi'r cyfweliad bydd y panel yn rhoi eu barn am wybodaeth y myfyriwr am y gwaith ac yn rhoi'r rhesymau dros ddod i'r casgliad hwn.
10.7 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu nad yw'r myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/heiddo hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at Banel YAA er mwyn cynnal ymchwiliad i honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, ynghyd â manylion yr honiad a'r adroddiad o'r cyfweliad.
10.8 Pan fo myfyriwr yn cyfaddef eu bod yn euog o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn rhan o’r broses gyfweld, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn cyfeirio'r achos at y Gofrestrfa Academaidd i benderfynu ar y gosb briodol. Ni fydd yn ofynnol i’r panel YAA gwrdd â'r myfyriwr. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ofyn i’r panel YAA ystyried eu hachos os yw'r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad y cyfweliad.
10.9 Pan fydd y panel cyfweld yn penderfynu bod y myfyriwr wedi dangos mai ei eiddo ef/hi yw'r gwaith dan sylw, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i gydlynydd y modiwl y dylid marcio'r gwaith yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd gan yr Adran a rhoi gwybod i'r myfyriwr na chymerir unrhyw gamau pellach.