RAS200 (RAS200 - Sky & Earth)
Mewn menter unigryw mae'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (Royal Astronomical Society, RAS) wedi sefydlu ymgyrch i gyflwyno Seryddiaeth a Geoffiseg i gynulleidfaoedd sydd yn arferol y tu allan i'r dal-gylch gwyddonol. Mae RAS200 Awyr a Daear yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dau gan mlwyddiant y Gymdeithas Seryddol yn 2020, gyda'r RAS wedi clustnodi miliwn o bunnoedd ar gyfer cyfres o brosiectau. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach.
RAS200 yng Nghymru (RAS200 – Seryddiaeth a Geoffiseg)
Sylfaenwyd y prosiect yma ar gydweithio rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, gwyddonwyr ag arbenigedd mewn Seryddiaeth a Geoffiseg ac arbenigwyr ar gyfathrebu gwyddoniaeth.
Mae'n brosiect yn cwmpasu sawl sefydliad. Yn ganolog i'r prosiect mae'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, University of Bristol, University College London (Mullard Space Science Laboratory), Ysgol Glan Clwyd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwmni Telesgop. Nod y prosiect yw cyflwyno'r gwyddoniaeth i'r gymdeithas ehangach drwy weithgareddau yn y celfyddydau. Mae'n ymestyn o geomorffoleg ar arwyneb y Ddaear, drwy ein atmosffer trydanol a maes magnetig y Ddaear, i'r gofod rhyng-blanedol, at yr Haul, planedau, comedau a thu hwnt at y sêr a'r galaethau.