Trio Sci Cymru

Caiff y prosiect sy’n werth £8m ei ariannu gan gyllid Ewropeaidd a’i oruchwylio gan Academi Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru a bydd yn cyflwyno gweithdai i Ddisgyblion Cyfnod Allweddol Tri (Blynyddoedd 7,8 a 9) ar draws Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, a’r Sefydliad Ffiseg. Bydd Ffiseg yn chwarae rhan drwy gynnig pecyn estyn allan cyffrous yn seiliedig ar gynnyrch ymchwil y’r Adran.

Mae adran Ffiseg Aberystwyth yn falch o fod yn bartner yn narpariaeth prosiect Trio Sci Cymru. Mae Trio Sci Cymru wedi cynllunio cyfres o weithdai sy'n rhoi llwyfan i'r wyddoniaeth ddiweddaraf yn astudiaethau'r gofod er mwyn ysbrydoli pobl ifainc o bob gallu i ddatblygu eu medrau gwyddonol er mwyn archwilio bydoedd eraill. Yn y gweithdai bydd y myfyrwyr yn dylunio cyrch i'r blaned Mawrth, yn cynllunio amserlen diwrnod ar gyfer cerbyd crwydro archwiliol, a darganfod sut mae rocedi yn teithio drwy'r gofod yn glanio ar blaned bell. Dros y blynyddoedd nesaf bydd cyrchoedd gwyddonol go iawn yn archwilio'r Haul a Mawrth, ac yn chwilio am blanedau sy'n cylchdroi o amgylch sêr eraill. Bydd ein sesiynau yn helpu rhoi'r gweithgareddau arallfydol hyn yng nghyd-destun cwricwlwm gwyddoniaeth yr ysgol, yn ysbrydoli'r disgyblion mewn amgylchedd a fydd yn llawn sbort ac yn tanio eu diddordeb.

Yn ystod y flwyddyn ysgol 2019/20 byddwn yn cyflwyno tri gweithdy ffiseg gyffrous newydd, Egni, Cynnig a Grymoedd yn y Gofod, Glanio ar Blaned Mawrth a Goroesi yn y Gofod.  Cysylltwch â triosci@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622118 i gael rhagor o wybodaeth.

Ewch i'n tudalennau Trio Sci Cymru i gael gwybodaeth am y prosiect a mynediad i'r adnoddau digidol ar gyfer athrawon a myfyrwyr.