Gallai 92% o rewlifoedd yr Alpau ddiflannu erbyn diwedd y ganrif, medd ymchwilwyr
07 Rhagfyr 2020
Gallai newid hinsawdd arwain at golli hyd at 92% o rewlifoedd yr Alpau erbyn diwedd y ganrif hon yn ôl canfyddiadau ymchwil newydd.
Cwsmeriaid yn barod i dalu pris uwch am gig eidion o ansawdd
01 Rhagfyr 2020
Pa mor frau yw cig yn bwysicach na faint o sudd sydd ynddo
Mae cwsmeriaid yn fodlon talu dwywaith y pris arferol am gig eidion premiwm o ansawdd uchel, yn ôl canlyniadau ymchwil.
Gwasanaeth cyfreithiol am ddim ar restr fer gwobr fawreddog
01 Rhagfyr 2020
Mae gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim, a ddarperir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â chwmni cyfreithiol arobryn Emma Williams Family Law, ar ddwy restr fer Gwobrau Pro Bono Law Works eleni.
Estyn cyfnodau Is-Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth
03 Rhagfyr 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau bod Cadeirydd ac Is-Ganghellor y Cyngor ill dau wedi cytuno i ymestyn eu cyfnodau yn eu swyddi.
Ymchwil i ffermio cymysg yn mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd
16 Rhagfyr 2020
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect rhyngwladol gwerth €7m i helpu ffermwyr i fabwysiadu dulliau amaethyddol mwy arloesol i sicrhau bod eu busnesau yn gallu gwrthsefyll ac addasu i heriau allanol.
Yr Ysgol Gelf yn derbyn rhodd unigryw ar gyfer y cenedlaethau
17 Rhagfyr 2020
Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn yr hyn a ddisgrifir fel ‘un o’r rhoddion mwyaf arwyddocaol yn ei hanes’.
Byrgyrs chwilod neu fyrbrydau criced? Bwyd o bryfed ar y fwydlen ymchwil yn Aberystwyth
18 Rhagfyr 2020
Gallai criciaid a chwilod gael eu gweini ar ein platiau yn amlach, diolch i ymchwil academaidd newydd.
Buddsoddiad sy’n werth £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus Aberystwyth
18 Rhagfyr 2020
Gwahoddir myfyrwyr a graddedigion newydd Prifysgol Aberystwyth i gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol i ddathlu'i myfyrwyr mentrus, pan fydd cyfle iddynt ennill buddsoddiad o £10,000 yn eu syniad busnes.
Sting yn cyflwyno gwobr we Ewropeaidd i brosiect amgylcheddol sy’n cael ei arwain gan Aberystwyth
24 Rhagfyr 2020
Cydnabyddiaeth gan yr Undeb Ewropeaidd i prosiect eco-beirianneg arloesol sy'n anelu at droi amddiffynfeydd môr a strwythurau artiffisial eraill yn gynefinoedd morol ffyniannus.