Estyn cyfnodau Is-Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth
Emyr Roberts and Elizabeth Treasure
03 Rhagfyr 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau bod Cadeirydd ac Is-Ganghellor y Cyngor ill dau wedi cytuno i ymestyn eu cyfnodau yn eu swyddi.
Yn ystod ei gyfarfod ddydd Iau 26 Tachwedd, pleidleisiodd Cyngor y Brifysgol yn unfrydol o blaid gofyn i Dr Emyr Roberts wasanaethu fel Cadeirydd am ail dymor. Ymunodd Dr Roberts â'r Cyngor yn 2015, ac mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd ers mis Ionawr 2018. Bydd ei ail dymor (o ddau ar y mwyaf) yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023.
Cadarnhawyd hefyd bod yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure wedi cytuno i ymestyn ei chyfnod tan fis Medi 2024. Dechreuodd yr Athro Treasure ei swydd fel Is-Ganghellor ym mis Ebrill 2017.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Roedd yn anrhydedd mawr i mi dderbyn y cais i barhau yn fy rôl fel Is-Ganghellor yma yn Aberystwyth. Rwy’n falch iawn ym mod yn aros yma i ddatblygu’r sefydliad gwych hwn yn unol â’r llwybr yr ydym wedi’i osod dros y blynyddoedd diwethaf a hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr hynny, ar y Cyngor a Gweithrediaeth y Brifysgol, ond hefyd trwy'r Brifysgol gyfan, am eu cyfraniadau allweddol a pharhaus.”
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts: “Rwy’n ddiolchgar i holl aelodau Cyngor y Brifysgol am eu cefnogaeth a’u hyder ynof fel Cadeirydd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw, a chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol dros y blynyddoedd i ddod. Yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn natblygiad y Brifysgol, rydym yn falch iawn bod yr Athro Elizabeth Treasure wedi cytuno i barhau fel ein Is-Ganghellor, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda hi a'i thîm i hyrwyddo'r Brifysgol hon, a'i haddysgu a’i hymchwil sydd o safon byd.”