Gwasanaeth cyfreithiol am ddim ar restr fer gwobr fawreddog

Yn y llun mae myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg, Elliot Books (chwith) ac Olivia Rookes (dde), â Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, un o sefydlwyr Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth.

Yn y llun mae myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg, Elliot Books (chwith) ac Olivia Rookes (dde), â Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, un o sefydlwyr Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth.

01 Rhagfyr 2020

Mae gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim, a ddarperir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â chwmni cyfreithiol arobryn Emma Williams Family Law, ar ddwy restr fer Gwobrau Pro Bono Law Works eleni.

Sefydlwyd y Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth gan Dr Ola Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg gyda chefnogaeth cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Law Works Cymru a’r Clinig Pro Bono Gorau.

Mae’r Clinig yn cynnig cefnogaeth gyfreithiol am ddim i bobl sy'n byw yng Ngheredigion ac fe'i sefydlwyd er mwyn ymateb i’r diffyg cyngor cyfreithiol am ddim oedd ar gael wedi i Gymorth Cyfreithiol (Legal Aid) ddod i ben yn yr ardal.

Heb yr un darparwr Cymorth Cyfreithiol i deuluoedd o fewn 35 milltir a heb glinig cyngor cyfraith teulu na chyfleoedd eraill i gael cyngor cyfreithiol am ddim yn lleol, mae Ceredigion wedi’i diffinio fel ‘anialwch cynghori’ gan Gymdeithas y Gyfraith.

Yn ogystal â chynnig sesiynau cynghori 30 munud, mae'r clinig yn cwblhau gwaith papur ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, ac yn paratoi ceisiadau ysgariad a gorchmynion trefniadau plant yn rheolaidd.

Mae’r clinig, sy’n cael ei ddarparu gan Emma Williams, a raddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth, yn cael ei gefnogi gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn yn Adran y Gyfraith a Throseddeg sy’n astudio’r Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol Ymarferol.

Yn ystod 2020 bu rhaid i’r gwasanaeth ymateb i’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19. Ers mis Mawrth, gwelwyd cynnydd yn y galw a bellach mae’r Clinig yn cael ei gynnal bob wythnos yn hytrach nac yn fisol.

Yn ogystal, gorfododd y cyfyngiadau teithio a phellter cymdeithasol i’r Clinig gynnig gwasanaeth ffôn yn unig yn y lle cyntaf. Dros gyfnod yr haf datblygodd yn wasanaeth ffôn a Zoom ar y cyd, ac yn fwy diweddar, yn wasanaeth ar-lein.

Dywedodd yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n anrhydedd ac yn destun balchder mawr i weld bod ein Clinig Cyfraith Teulu yn Aberystwyth wedi derbyn dau enwebiad unwaith eto eleni ar gyfer y gwobrwyon hyn.  Mae’n dysteb i waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr ac Emma Williams Family Law.

“Mae hygyrchedd cyngor cyfreithiol i unigolion bregus yn wyneb toriadau sylweddol mewn ariannu’r gyfundrefn gyfiawnder yn fater o bwys sylweddol. Mae’r clinig yn un o nifer o brosiectau oddi mewn i Adran y Gyfraith a Throseddeg sydd yn mynd i’r afael â hyn gan gynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr a chyfrannu ar yr un pryd at lesiant cyhoeddus.”

Yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree mae 23% o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae mwyafrif llethol y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dod o dan safon isafswm incwm Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae'n un o ddau wasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim a gynigir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg - y llall yw'r Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru.

Dywedodd Dr Ola Olusanya: “Mae cyrraedd rhestr fer gwobrau Pro Bono am yr ail flwyddyn yn olynol yn gamp ragorol. Mae'r enwebiad hwn yn ganlyniad i ymroddiad, gwaith caled, ymrwymiad a chreadigrwydd ein tîm. Rydym wedi ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â ffyrdd newydd o weithio a gwella profiadau dysgu myfyrwyr trwy ehangu ein hoffer rhithwir i drosglwyddo'n ddidrafferth i weithio o bell a thrwy addasu cyfleoedd rhithwir i ymateb i amgylchiadau cyfredol.

“Mae Clinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw wrth liniaru canlyniadau iechyd meddwl a chorfforol a ddaeth yn sgil pellhau cymdeithasol a gorfod byw ar wahân ar deuluoedd gwledig yn y Canolbarth yn ystod cyfnod COVID-19. Unwaith eto, hoffem estyn ein gwerthfawrogiad diffuant a diolch i'n cyn-fyfyrwyr a'n ffrindiau sy'n cyfrannu at Gronfa Aber. Heb eu cefnogaeth ni fyddai'r Clinig yn bosibl.”

Mae'r Gwobrau Pro Bono yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniad mewn gwaith cyfreithiol rhad ac am ddim, a wneir gan sefydliadau ac unigolion, ac ymrwymiad y sector gyfreithiol i alluogi mynediad at gyfiawnder.

Mae'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cynrychioli amrywiaeth ac ystod y gweithgaredd pro bono a wneir gan aelodau LawWorks ac eraill yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Alasdair Douglas, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr LawWorks: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Cawsom nifer anhygoel o enwebiadau, ac, o ystyried pa mor heriol y bu eleni i bawb, mae'n galonogol iawn gweld bod pro bono wedi ffynnu a datblygu. Hoffwn ddiolch i bawb a gafodd eu henwebu - nid yw wedi bod yn rhwydd i'r beirniaid setlo ar restr fer. Hoffwn hefyd ddiolch i'r beirniaid am roi eu hamser.”

“Mae'r Gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad cwmnïau cyfreithiol, o'u huwch reolwyr i'w hyfforddeion a'u staff gweinyddol, timau mewnol a'r nifer fawr o unigolion sy'n gwirfoddoli eu hamser a'u harbenigedd i wella bywydau eraill. Er na allwn gwrdd wyneb yn wyneb i ddathlu gwobrau eleni a’r hyn a gyflawnwyd gan y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, rwy’n gobeithio y gallwn, trwy gynnal digwyddiad o bell, adlewyrchu a chydnabod eu cyfraniad enfawr.”

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Pro Bono LawWorks 2020 mewn seremoni wobrwyo fyw ar-lein nos Fercher, 2 Rhagfyr.

Noddir y digwyddiad gan Lexis Nexis a bydd yn cael ei arwain gan y cyflwynydd radio a theledu, y cynyrchydd a’r awdur Matthew Stadlen.

Hon yw’r ail flwyddyn yn olynol i glinig Prifysgol Aberystwyth gyrraedd rhestr fer y Gwobrau Pro Bono.

Yn 2019 cyrhaeddodd y clinic restr fer Gwobr Cymru LawWorks a chipiodd Emma Williams Family Law y wobr am y Cyfraniad Gorau gan Gwmni Bach.

Mae rhagor o wybodaeth am Glinig Cyfraith Teulu Prifysgol Aberystwyth ar-lein, drwy gysylltu â emma@ewfl.co.uk / famstaff@aber.ac.uk / 01269 267110, neu ar ei dudalen Facebook.