Buddsoddiad sy’n werth £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus Aberystwyth
18 Rhagfyr 2020
Gwahoddir myfyrwyr a graddedigion newydd Prifysgol Aberystwyth i gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol i ddathlu'i myfyrwyr mentrus, pan fydd cyfle iddynt ennill buddsoddiad o £10,000 yn eu syniad busnes.
Mae InvEnterPrize, a lansiwyd yn 2012, yn cynnig cyfle i fentergarwyr o blith y myfyrwyr ddatblygu cysyniad busnes neu syniad am fenter gymdeithasol, ac i gyflwyno'u syniadau i banel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus o Brifysgol Aberystwyth mewn digwyddiad rhithiol sy'n debyg i raglen deledu 'Dragon's Den'.
Gall yr unigolyn neu'r tîm buddugol fuddsoddi'r wobr £10,000 mewn cyfarpar, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol fel y gallant droi eu dyfeisiad neu syniad am egin busnes yn realiti. Noddir y gystadleuaeth gan gyfraniadau oddi wrth Gronfa Aber y cyn-fyfyrwyr.
Yn ogystal â'r brif wobr, bydd y cais gorau o blith sectorau'r bio-wyddorau, y gwyddorau bywyd ac amaethyddiaeth yn cael swyddfa i'w defnyddio yn rhad ac am ddim am flwyddyn gyfan ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth. Mae gwobr ar wahân sy'n werth £3,000, a roddir gan Engineers in Business, hefyd ar gael i fyfyrwyr neu dimau o fyfyrwyr Cyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg.
Meddai'r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr): "Mae Gwobr Menter Aber, a gyflwynir bob blwyddyn, yn annog creadigrwydd, gwreiddioldeb a mentergarwch ymhlith ein myfyrwyr a'n graddedigion diweddar. Mae'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael cyfle i'w cysyniad gael ei werthuso'n feirniadol gan bobl fusnes lwyddiannus. Eleni eto, rydym yn ddiolchgar iawn i bump o gyn-fyfyrwyr nodedig am gytuno i fod yn "Ddreigiau" inni, fel yn y rhaglen deledu. Penllanw'r gystadleuaeth yw gweld unigolyn mentrus neu dîm o fentergarwyr yn sicrhau £10,000 i'w buddsoddi yn eu syniad, a'r potensial i lansio menter fusnes lwyddiannus."
Ymhlith enillwyr y gorffennol y mae'r gwasanaeth dysgu ieithoedd ar-lein Papora (2013), y cerbyd cludo di-yrrwr arbrofol Car-Go (2017) ac Amigrow, menter a grëwyd i helpu ffermwyr yng Ngholombia i gynyddu'u cnwd drwy ddefnyddio technoleg loeren a dysgu peirianyddol (2019). Yr enillydd yn 2020 oedd PlantSea, eco-fusnes sy'n defnyddio gwymon o Gymru i greu bio-blastigau.
Fel y dywed Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth a threfnydd y gystadleuaeth: " InvEnterPrize yw un o'r cystadlaethau menter mwyaf yng Ngwledydd Prydain i fyfyrwyr, ac mae'n gyfle cyffrous i'n fyfyrwyr a'n graddedigion sydd â phen am fusnes.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgeiswyr fireinio'u sgiliau cychwyn busnes drwy gyfres o weithdai a chyflwyniadau dan arweiniad Rhwydwaith 'AberPreneur' y Brifysgol. Cynhelir y digwyddiadau ar-lein am y tro, a gall myfyrwyr sy'n ymuno â'r sesiynau gael cyngor am ymchwil i'r farchnad, marchnata a brandio, cynllunio a rheoli ariannol ac eiddo deallusol - mae'r rhain oll yn sgiliau hollbwysig wrth gychwyn busnes.
"Yn ogystal â darparu hyfforddiant ynglŷn â sgiliau cychwyn busnes, mae Tîm Menter y Brifysgol yn y Gwasanaethau Gyrfaoedd wedi creu partneriaeth â Syniadau Mawr Cymru i gynnig gwasanaeth mentora sy'n ymwneud â chychwyn busnes i unrhyw fyfyrwyr neu raddedigion sy'n awyddus i gymryd rhan yn InvEnterPrize yn 2021."
Rhaid i geisiadau i fod yn rhan o InvEnterPrize ein cyrraedd erbyn dydd Llun, yr 8fed o Chwefror 2021. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we AberPreneurs.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen lawn o ddigwyddiadau sy'n cefnogi gweithgarwch entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr o bob adran, yn ogystal â graddedigion a staff.