Sting yn cyflwyno gwobr we Ewropeaidd i brosiect amgylcheddol sy’n cael ei arwain gan Aberystwyth
Yn ystod haf 2019 gosodwyd teils concrit ar yr amddiffynfeydd morol ger y Borth yng Ngheredigion fe rhan o brosiect eco-beirianneg Ecostructure.
24 Rhagfyr 2020
Mae prosiect eco-beirianneg arloesol sy'n anelu at droi amddiffynfeydd môr a strwythurau artiffisial eraill yn gynefinoedd morol ffyniannus wedi ennill gwobr fawr gan yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd gwobr Better World (Byd Gwell) i Ecostructure, prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth (http://www.ecostructureproject.eu), gan y canwr Sting yng Ngwobrau Gwe .eu 2020, a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.
Roedd Ecostructure yn un o dri phrosiect i gyrraedd rownd derfynol gwobr Byd Gwell, sy'n dathlu gwefannau sy'n annog mentrau gwyrdd.
Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd bum prifysgol flaenllaw yng Nghymru ac Iwerddon - Coleg Prifysgol Corc, Coleg Prifysgol Dulyn, a phrifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth - i godi ymwybyddiaeth o atebion eco-beirianyddol mewn ymateb i'r her o addasu arfordirol i newid yn yr hinsawdd.
Dr Joe Ironside o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yw arweinydd prosiect Ecostructure.
Dywedodd Dr Ironside: “Un o brif amcanion Ecostructure yw codi ymwybyddiaeth o eco-beirianneg fel dull o gynhyrchu strwythurau sy’n fwy gwyrdd ac yn cynnig mwy o fioamrywiaeth yn yr amgylcheddau arfordirol a morol. Mae Gwobr Gwe .eu yn cydnabod y sgil ac ymdrech tîm Ecostructure wrth iddynt ddatblygu adnoddau ar-lein i lywio, ennyn brwdfrydedd a chynorthwyo ein rhanddeiliaid i ymgysylltu ag eco-beirianneg i greu byd gwell. Rydym yn ddiolchgar iawn am y wobr hon a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig i ni godi ymwybyddiaeth ymhellach trwy'r hysbysebion ym maes awyr Brwsel, fideo EURid a'r cyhoeddusrwydd arall sy'n ymwneud â'r digwyddiad hwn.”
Derbyniwyd y wobr gan Amy Dozier o Ganolfan Ymchwil Ynni, Hinsawdd a Morol SFI yng Ngholeg Prifysgol Corc.
Dywedodd Amy: “Diolch yn fawr, mae’n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon ar ran Ecostructure. Hoffwn ddiolch i'r consortiwm cyfan am y gwaith hynod o werthfawr maen nhw'n ei wneud. Mae gan y prosiect hwn galon go iawn, mae pobl yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn creu gofod i fywyd gwyllt yn ein cymunedau arfordirol ac i hyrwyddo atebion eco-beirianyddol i addasu i newid yn yr hinsawdd. ”
Ariennir Ecostructure yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru 2014-2020.
Dyfarnwyd €3.25m o arian yr UE i’r prosiect yn 2017 i hwyluso mwy o ddefnydd o atebion sydd wedi eu seilio ar fyd natur i wella gwerth ecolegol strwythurau arfordirol artiffisial ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon.
Fel rhan o'r prosiect, profwyd atebion eco-beirianyddol o bob cwr o'r byd ym Môr Iwerddon a chrëwyd dyluniadau newydd a'u hatodi ar strwythurau artiffisial fel amddiffynfeydd môr i ymchwilio i'w rôl wrth ddarparu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd morol.
Sicrhaodd y prosiect €1.61m yn ychwanegol gan yr UE ym mis Gorffennaf 2020, i barhau â'r gwaith am 18 mis arall.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Hoffwn longyfarch y tîm yn Ecostructure ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Gwe .eu.
“Mae derbyn gwobr Byd Gwell yn arwydd enfawr o hyder yn eu gwaith arloesol ym maes eco-beirianneg.
“Trwy ymdrechion arloesol ar y cyd fel y rhain y gall Cymru helpu i ymateb i’r peryglon a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd - ac edrychaf ymlaen at weld eu llwyddiannau yn y dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Michael McGrath, T.D: “Rwy’n falch iawn bod prosiect Ecostructure Iwerddon-Cymru yr UE wedi derbyn gwobr mor bwysig gan yr Undeb Ewropeaidd yn y categori Byd Gwell. Mae Ecostructure yn brosiect ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Corc, Coleg Prifysgol Dulyn, a phrifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth ac mae'r wobr yn deyrnged i'r prifysgolion hyn sy’n cydweithio fel rhan o raglen Iwerddon-Cymru a ariennir gan yr UE. Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r fenter.
“Mae Iwerddon yn cydnabod pwysigrwydd allweddol amddiffyn ein hamgylchedd, fel y gwelwyd gyda chyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd uchelgeisiol y llynedd a'r cynnydd ar welwyd ar y Mesur Gweithredu Hinsawdd eleni. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfrifoldeb rydyn ni’n ei rannu gyda'n cymdogion agosaf, i amddiffyn ein moroedd.”
Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ar ran Prifysgol Aberystwyth hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud ag Ecostructure ar eu llwyddiant. Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein planed, ac fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil ryngddisgyblaethol gydweithredol i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r materion a chwilio am atebion posibl. Mae effaith newid yn yr hinsawdd ar ein cymunedau, cynefinoedd a bywydau bob dydd yn fwy real byth, ac mae codi proffil y gwaith sy'n cael ei wneud i ddeall y newidiadau hyn yn hanfodol ar gyfer eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.”
Ym mis Awst 2019 bu’r tîm yn gosod teils concrit, a wnaed gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D, ar amddiffynfeydd môr yn y Borth yng Ngheredigion.
Cafodd y gwaith, a gynlluniwyd i ail-greu'r cilfachau a’r holltau a geir ar gynefinoedd creigiog naturiol, sylw ar BBC Wales Today.
Y ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori Byd Gwell eleni oedd clevercities.eu a jonasproejct.eu.
Ffrydiwyd seremoni lawn Gwobrau Gwe .eu 2020 yn fyw o'r Teatro Verdi yn Pisa, yr Eidal, a gellir ei gweld ar-lein yma.
Mae’r cyflwyniad i wobr Byd Gwell yn dechrau tuag awr 35 munud i mewn i’r seremoni, ac mae’n cynnwys perfformiad o Fragile gan Sting, o'i albwm Nothing Like the Sun.
Wrth gyhoeddi’r enillydd, dywedodd Sting: “Trwy ein gweithredoedd beunyddiol, gallwn ni i gyd gyfrannu at fyd gwell. Diolch am fy ngwahodd i'ch gala rithiol a llongyfarchiadau i'r enillydd ac i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol.”