Yr Ysgol Gelf yn derbyn rhodd unigryw ar gyfer y cenedlaethau
Dadbacio anrheg Swydd Derby. O'r chwith i'r dde: Y Curadur Neil Holland yn dal print leino gan Gertrude Hermes, Pennaeth yr Ysgol Gelf yr Athro Robert Meyrick gydag ysgythriad gan Julian Trevelyan, a'r Athro Dysgu Gydol Oes Phil Garratt gyda print leino gan Edward Bawden. Mae'r cefndir yn cynnwys gweithiau gan Edward Middleditch, Ernest Perry, Patrick Heron a L S Lowry.
17 Rhagfyr 2020
Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn yr hyn a ddisgrifir fel ‘un o’r rhoddion mwyaf arwyddocaol yn ei hanes’. Bydd myfyrwyr, academyddion ac ymwelwyr yn gallu mwynhau gwaith gan artistiaid sy’n cynnwys Rembrandt van Rijn, Albrecht Dürer a L. S. Lowry, yn dilyn rhodd gan awdurdod lleol yn Lloegr.
Mae’r Brifysgol wedi derbyn casgliad sylweddol a gwerthfawr o tua 200 o weithiau celf yn rhodd gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Swydd Derby, yn dilyn proses ymgeisio yn seiliedig ar sut y câi’r gelf ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Er bod awdurdodau addysg eraill wedi gwasgaru eu casgliadau benthyg trwy arwerthiannau cyhoeddus, ymdrechodd Swydd Derby i ailgartrefu ei chasgliadau mewn amgueddfeydd achrededig ledled Prydain. Mae hwn yn brosiect dosbarthu ar raddfa fawr gan Swydd Derby. Cafodd ei dywys gan God Moeseg Cymdeithas yr Amgueddfeydd, a weinyddir gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Buxton, a’i gefnogi gan Gronfa Casgliadau Esmée Fairbairn.
Cyflwynodd Amgueddfa’r Ysgol Gelf ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb unigol am bob darn o waith celf y gwnaeth gais amdano, a gwnaed y cais gan nodi sut y mae’n gysylltiedig â’i Pholisi Datblygu Casgliadau, sut y bydd y gwaith celf yn cael ei ddefnyddio a’i arddangos, ac ym mha ffordd y bydd yn fuddiol i’w gynulleidfaoedd.
Meddai Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Arweiniad Strategol, Diwylliant a Thwristiaeth yn Swydd Derby, y Cynghorydd Barry Lewis: “Mae hwn yn brosiect cyffrous ac arloesol i fod yn rhan ohono ac rydym yn croesawu’r hyder a ddangoswyd ynom gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd i drefnu hyn yn iawn.
“Ers amser maith bu amgueddfeydd yn nerfus ynglŷn â gwaredu eitemau, felly mae hwn yn brosiect arloesol a fydd yn sicrhau bod eitemau’n cael eu hailgartrefu mewn dull agored, gan ystyried pa le sydd orau i wrthrych penodol a sicrhau lle bo’n bosibl nad yw’n cael ei golli i’r cyhoedd.
“Rydyn ni’n hynod o falch bod Amgueddfa’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gallu derbyn y darluniau hyn, a’u dangos yn ei horielau. Mae hi hyd yn oed yn fwy boddhaus i wybod bod cartref wedi ei ganfod i gymaint o ddarnau mewn sefydliad addysgu, sef parhad o’r diben y prynwyd y gweithiau hyn ar ei gyfer yn wreiddiol.”
Yn ôl Pennaeth yr Ysgol Gelf a’r Ceidwad Celf, yr Athro Robert Meyrick: “Rydyn ni’n wrth ein boddau i dderbyn y casgliad ysblennydd hwn o gelf a fydd yn cyfoethogi'r hyn y gallwn ni gynnig yn Amgueddfa Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.”
“Bydd arddangosfeydd o blith casgliad Swydd Derbyn yn rhoi amgylchedd ysgogol i’r myfyrwyr a staff, i gynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol yn ogystal â’n hymwelwyr rhyngwladol. Mae ein pellter o orielau celf mawr yn golygu y bydd gan ddarluniau Swydd Derby fwy o arwyddocâd ac effaith yma yn Aberystwyth nag a fyddai ymhlith casgliadau mwy o faint mewn ardaloedd trefol.”
Mae’r Amgueddfa yn casglu a dangos gwaith celf o werth addysgol a diwylliannol sy’n ddefnyddiol i ddibenion dysgu ac ymchwil ac yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr wrth iddynt allu astudio gweithiau celf hanesyddol a chyfoes yn uniongyrchol. Mae casgliadau’r Amgueddfa yn unigryw yng Nghymru ac maent o bwysigrwydd rhyngwladol. Cânt eu defnyddio wrth hyfforddi myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i fod yn arlunwyr, yn haneswyr celf, yn guraduron amgueddfeydd, a threfnwyr arddangosfeydd.
Cafodd y gweithiau celf a roddwyd gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Cyngor Swydd Derby eu dewis am eu potensial i’w dangos yn gyhoeddus a chyda defnydd addysgiadol mewn golwg, a chant eu defnyddio fel canolbwynt gweithgareddau allanol drwy gyrsiau dysgu gydol oes ac arddangosfeydd.
Mae un o uwchraddedigion yr Ysgol Gelf, sef Sarai David o Virginia yn yr Unol Daleithiau, eisoes wedi dechrau gweithio ar y darnau sydd newydd eu caffael. Dywedodd: “Rydw i wedi cael mwynhad mawr yn dogfennu’r darluniau olew yn rhan o fy nghwrs MA Hanes Celf, ac rwy’n gyffrous iawn i ddysgu mwy am y casgliad pwysig hwn trwy fy ymchwil. Dysgais nifer o sgiliau newydd trwy drin a chatalogio gweithiau celf gwerthfawr mewn dull trefnus er mwyn rhoi gwerth arnynt. Fy nod yw cynnal arddangosfa gyhoeddus o ddarluniau ac i ddangos fy ymchwil ynglŷn ag arlunwyr nad oes fawr ddim wedi’i ysgrifennu amdanynt hyd yn hyn.”
Mae’r trosglwyddiad yn cynnwys printiau gwreiddiol gan y meistri Ewropeaidd Albrecht Dürer a Rembrandt van Rijn, yn ogystal â gwneuthurwyr printiau Prydeinig o’r 20fed-ganrif megis Michael Ayrton, Edward Bawden, John Bratby, Elizabeth Frink, Alistair Grant, Anthony Gross, Gertrude Hermes, Patrick Heron, Charles Keeping, L. S. Lowry, Sidney Nolan, Eduardo Paolozzi, Victor Pasmore, John Piper, Michael Rothenstein, Robert Tavener, Julian Trevelyan a Clifford Webb.
Mae’n cynnwys paentiadau gan Christopher Hall, Edward Middleditch, Ceri Richards, Fred Uhlman a Nan Youngman yn ogystal â darluniau gan Hablot K. Browne, Edward Lear, John Leech, George du Maurier, John Minton, a darluniwr Winnie the Pooh, Ernest Howard Shepard.