Ymchwil i ffermio cymysg yn mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd
16 Rhagfyr 2020
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect rhyngwladol gwerth €7m i helpu ffermwyr i fabwysiadu dulliau amaethyddol mwy arloesol i sicrhau bod eu busnesau yn gallu gwrthsefyll ac addasu i heriau allanol.
Trwy'r prosiect pedair blynedd hwn, bydd ymchwilwyr yn cydweithio â ffermwyr yn Ewrop i'w helpu i weithredu dulliau ffermio cymysg, sy'n fwy effeithlon ac sy'n lliniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Gall nifer o fanteision ddeillio o'r rhyngweithio o fewn systemau ffermio cymysg sy'n integreiddio cnydau, da byw a gwaith coedwigaeth.
Gall ffermio cymysg hefyd helpu i wrthsefyll amrywiaeth eang o heriau, gan gynnwys tywydd eithafol, grymoedd y farchnad, a newidiadau gwleidyddol, biolegol a chymdeithasol.
Mae academyddion o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â 19 o bartneriaid academaidd a diwydiannol o 10 gwlad Ewropeaidd ar y prosiect hwn, a ariennir gan raglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Nod yr ymchwil yw hybu’r gwaith o ddatblygu a gweithredu Systemau Ffermio Cymysg ac Amaeth-goedwigaeth Ewropeaidd effeithlon a gwydn, sy'n sicrhau'r cynhyrchiant uchaf posibl a'r defnydd gorau o adnoddau. Bydd y prosiect yn ystyried yr effeithiau ar gynhyrchu cnydau a da byw, iechyd a lles da byw, strwythur a ffrwythlondeb pridd, dal a storio carbon a bioamrywiaeth.
Dywedodd Dr Pip Nicholas-Davies, sydd yn arwain y gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Ar gyfer yr ymchwil hwn byddwn yn gweithio gyda grwpiau o ffermwyr er mwyn addasu eu dulliau gweithio i fynd i'r afael â bygythiadau newid hinsawdd a heriau eraill.
"Rydym am brofi'r syniad bod mwy o systemau ffermio cymysg ac amaeth-goedwigaeth wedi cynyddu'r potensial i wrthsefyll ac addasu i'r hinsawdd. Mae'r ffermydd cymysg hynny'n rheoli adnoddau ac yn defnyddio maetholion mewn ffyrdd sy'n golygu y gallent fod yn rhan o'r ateb i'r heriau hyn.
"O safbwynt ehangach, gellir ystyried effeithlonrwydd ffermydd fel y gallu i gynyddu cynhyrchiant, lleihau mewnbynnau, a lleihau’r effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol ar yr un pryd, gan gynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hyn yn arwain at amaethyddiaeth sy’n fwy effeithlon ac ecogyfeillgar, ac mae hynny'n dda i bawb."
Yn rhan o'r prosiect, bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth yn gweithio yn y DU gydag ymchwilwyr yng Ngholeg Gwledig yr Alban (SRUC), Cymdeithas Sefydliadau Amaethyddol yr Alban (SAOS) a rhwydwaith o ffermwyr i ddatblygu cydweithrediad ffermio cymysg ar raddfa'r dirwedd rhwng ffermwyr gwartheg a ffermwyr âr arbenigol.