Profi camerâu ExoMars yng Ngwlad yr Iâ
31 Gorffennaf 2017
Mae gwyddonwyr o'r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg yn teithio i Wlad yr Iâ wrth i'r gwaith barhau i ddatblygu offer prosesu data ar gyfer system camera taith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth yn 2020 fynd rhagddo.
Fforwm Cymuned Penparcau a Chanolfan y Celfyddydau yn Cydweithio ar Brosiect am Flwyddyn
26 Gorffennaf 2017
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gweithio ar y cyd gyda Fforwm Cymuned Penparcau ar brosiect blwyddyn fydd yn gweld trigolion Penparcau yn cymryd y Ganolfan drosodd am wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym mis Mehefin 2018.
Bywyd Newydd i’r Hen Goleg
26 Gorffennaf 2017
Mae dros £10 miliwn wedi ei neilltuo gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer gwaith adfer sylweddol ar adeilad eiconig yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, man geni addysg brifysgol yng Nghymru.
Bridiau newydd o feillion coch yn rhoi'r dewis i ffermwyr allu tyfu eu protein ar y fferm yn lle ei brynu
25 Gorffennaf 2017
Mae datblygiadau sy'n gwneud meillion coch yn wytnach ac yn fwy abl i wrthsefyll clefydau yn esbonio pam mae'r cnwd uchel ei brotein hwn yn cael ei ddefnyddio'n fwyfwy gan fusnesau da byw ym Mhrydain, yn ôl yr Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion IBERS.
Bridwyr glaswellt Cymru yn cynhyrchu mathau blaenllaw sy’n cael effaith sylweddol yn fyd-eang
25 Gorffennaf 2017
Mae bridwyr glaswellt o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) unwaith eto wedi cynhyrchu mathau sydd ar frig y rhestrau cymeradwy swyddogol diweddaraf, sef dau fath newydd o rygwellt uchel eu siwgr.
Cyfleusterau milfeddygol newydd gwerth £4.2 miliwn gyda chefnogaeth yr UE yn Aberystwyth
24 Gorffennaf 2017
Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth £4.2 miliwn ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.
Arferion monitro newydd llyngyr ceffylau ar gyfer yr 21ain ganrif
24 Gorffennaf 2017
Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi dilysu datblygu arf asesu parasit o bell newydd i brofi ceffylau ar gyfer heintiau llyngyr.
Urddo’r Athro Martin Conway yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth
21 Gorffennaf 2017
Mae’r Athro Martin Conway (MA DPhil Oxf, FRHistS) o Goleg Balliol, Rhydychen wedi ei gyflwyno’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.
Urddo Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth
21 Gorffennaf 2017
Mae Lance Batchelor, Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC a chyn-brif Swyddog Gwethredol Domino's Pizza a Tesco Mobile wedi ei gyflwyno fel Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.
Cyflwyno Graddau er Cof i ddwy fyfyrwraig
20 Gorffennaf 2017
Yn ystod seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 20 Gorffennaf 2017, cafodd graddau ar ôl marwolaeth eu cyflwyno i ddwy fyfyrwraig.
Urddo cyn gynghorydd Banc y Byd a chyn-fyfyriwr y Gyfraith Gareth Howell yn Gymrawd
20 Gorffennaf 2017
Mae’r cyn gynghorydd i Fanc y Byd a’r Cenhedloedd Unedig, ac a raddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth, Gareth Howell, wedi ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Urddo Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi yn Gymrawd
20 Gorffennaf 2017
Mae’r cyn-fyfyriwr o Aberystwyth, a chyn-reoleiddiwr telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia, Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi, wedi ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.
Cyflwyno Gradd er Anrhydedd i David Alun Jones, Is Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru
19 Gorffennaf 2017
Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Dai Alun Jones, Is-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), gan Brifysgol Aberystwyth i gydnabod ei gyfraniad i bêl-droed a’r gymuned leol.
Urddo’r chwaraewraig rygbi ryngwladol Dr Louise Rickard yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth
19 Gorffennaf 2017
Mae’r chwaraewraig rygbi ryngwladol a’r gyn-fyfyrwraig Dr Louise Rickard wedi ei hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.
Gradd er Anrhydedd i fridiwr glaswellt
19 Gorffennaf 2017
Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth hir a’i gyfraniad i’r Brifysgol.
Cyflwyno’r Faner Werdd i Brifysgol Aberystwyth am y drydedd flwyddyn yn olynol
18 Gorffennaf 2017
Mae Gwobr y Faner Werdd wedi ei chyflwyno i Brifysgol Aberystwyth am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac mae campws Penglais a champws Llanbadarn wedi derbyn cydnabyddiaeth am ragoriaeth yr adnoddau a safon wych y mannau gwyrdd.
Yr ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth
18 Gorffennaf 2017
Mae’r athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, Heini Gruffudd wedi’i urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Cystadleuaeth animeiddio cyfrifiadurol i ysgolion
17 Gorffennaf 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn galw ar blant ysgol cynradd yng Nghymru i fod yn rhan o gystadleuaeth animeiddio Scratch yn cyfuno codio cyfrifiadurol gyda barddoniaeth.
Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Graddio
17 Gorffennaf 2017
Bydd rhwysg a rhodres Graddio yn dychwelyd i Aberystwyth yr wythnos hon wrth i’r Brifysgol baratoi i ddathlu llwyddiant ei graddedigion diweddaraf.
Cyflwyno cais caniatâd cynllunio Pantycelyn
13 Gorffennaf 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i ailwampio neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.
Agor Labordy Canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth
12 Gorffennaf 2017
Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn agor Labordy Canmlwyddiant yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear sy'n nodi can mlynedd o addysgu daearyddiaeth a gwyddorau daear yn Aberystwyth.
Cychod ymchwil morol newydd i’r Brifysgol
12 Gorffennaf 2017
Mae dau gwch ymchwil morol newydd sbon yn cael eu lansio gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Ysgol Gelf Aberystwyth yn llwyfannu arddangosfa Tunnicliffe yn yr Academi Frenhinol
11 Gorffennaf 2017
Mae dau hanesydd celf o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi curadu arddangosfa yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain o waith Charles F Tunnicliffe, sy’n cael ei gydnabod fel artist bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain yr ugeinfed ganrif.
Creu cymunedau dementia-gyfeillgar
11 Gorffennaf 2017
Mae ymchwilwyr o brosiect Dewis Choice yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth yn chwilio am bobl sydd eisiau dysgu mwy am ddementia a helpu i greu cymunedau dementia-gyfeillgar yng Nghymru.
Myfyriwr o Aber yn cychwyn ar interniaeth haf yn Tsieina
10 Gorffennaf 2017
Mae Amber Sinclair-Alexander, myfyrwraig Cyfrifeg a Chyllid a Ffrangeg yn treulio’r haf yn Shanghai fel un o chwe myfyriwr o wledydd Prydain sy’n mynd i Tsieina fel rhan o interniaeth Generation UK.
Arddangos technegau dysgu ac addysgu arloesol mewn cynhadledd i staff
10 Gorffennaf 2017
Dysgu gyda Lego, diwedd darlithoedd a'r defnydd o realiti rhithwir ar gyfer addysgu; dyma rai o’r meysydd sydd dan sylw mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 10 a 12 Gorffennaf 2017.
Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr newydd
06 Gorffennaf 2017
Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol, hanesydd, Prif Swyddog Gweithredol, ymgyrchydd iaith, a bridiwr glaswellt ymhlith y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio eleni sy'n cael eu cynnal ar 18-21 Gorffennaf 2017.
Ymchwilwyr o Aberystwyth yn trefnu cynhadledd ar amaethyddiaeth gynaliadwy yn Nigeria
04 Gorffennaf 2017
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trefnu cynhadledd arloesol ar ddatblygu amaethyddiaeth gynaliadwy yn Nigeria, gyda'r nod o arwain at fanteision economaidd a chymdeithasol yn y sector.
Aberystwyth yn croesawu cynhadledd seicoleg o fri
03 Gorffennaf 2017
Bydd dros 120 o ymchwilwyr o 15 o wledydd gwahanol yn ymgasglu ym Mhrifysgol Aberystwyth o 5 tan 7 Gorffennaf 2017 ar gyfer un o brif gynadleddau Cymdeithas Seicolegol Prydain.