Bridwyr glaswellt Cymru yn cynhyrchu mathau blaenllaw sy’n cael effaith sylweddol yn fyd-eang
Mi fydd Alan Lovatt yn rhoi cyflwyniad glaswelltydd Uchel ei Siwgr Aber diweddaraf ym mhabell IBERS Prifysgol Aberystwyth ar faes Y Sioe Frenhinol – stondin rhif CCA795 - ar Ddydd Mercher 26ain Gorffennaf 2017 am 2.30 pm. Croeso i bawb.
25 Gorffennaf 2017
Mae bridwyr glaswellt o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth unwaith eto wedi cynhyrchu mathau sydd ar frig y rhestrau cymeradwy swyddogol diweddaraf, sef dau fath newydd o rygwellt uchel eu siwgr.
Mae AberSpey a AberLee ar frig eu categorïau am eu cynnyrch ME (egni metaboladwy) fesul hectar (ME/ha) ar y Rhestr o Laswelltydd a Meillion Cymeradwy (Cymru a Lloegr) sydd newydd ei chyhoeddi, gan ychwanegu ymhellach at gyfres ‘Aber’ o Laswellt Uchel ei Siwgr (Aber HSG) sydd yn gymaint o lwyddiant trwy’r byd ers i’r amrywiad cyntaf gael ei lansio yn 2000.
Bellach, tyfir amrywiadau Aber o Laswellt Uchel ei Siwgr ledled y byd, ar ffermydd mor bell i ffwrdd â Seland Newydd. Maent yn enwog am eu cyfuniad o gynnyrch deunydd sych a’u hansawdd, ac maent yn cynnig cyfle sylweddol i ffermwyr da byw gynhyrchu mwy o laeth neu gig o’r porthiant a dyfir ar y fferm.
Ym Mynegai Elw Tir Pori Iwerddon (PPI), a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn 2017, mae amrywiadau Aber ar frig eu categorïau, gydag AberMagic (diploid canolig), AberClyde (tetraploid canolig), AberChoice (diploid hwyr) ac AberGain (tetraploid hwyr) yn arwain y ffordd.
Mae AberSpey yn cyfuno cynnyrch pori uchel ag ansawdd (gwerth-D) rhagorol sy’n golygu mai dyma’r amrywiad sydd â’r cynnyrch ME/ha uchaf ar y rhestrau diweddaraf o blith yr holl rygwelltau parhaol tetraploid sy’n tywysennu ganol y tymor.
Mewn treialon swyddogol, mae AberSpey yn dangos lefelau cyson uchel o gynnyrch deunydd sych trwyddi draw, gan berfformio’n arbennig o gryf tua diwedd y tymor gyda 111% o’i gymharu â’r rheolaethau ar gyfer pori yn yr hydref a 112% o’i gymharu â’r rheolaethau ar gyfer y trydydd a’r pedwerydd toriadau o silwair.
AberLee, sefrhygwellt parhaol diploid sy’n tywysennu yn hwyr, sydd â’r ansawdd gorau (Gwerth-D Pori, 78.6) o blith yr holl rygwelltau parhaol ar y rhestr ddiweddaraf. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith ei fod yn cynhyrchu lefel dda o ddeunydd sych, yn ei wneud yn un o’r perfformwyr gorau o safbwynt cynnyrch ME/ha.
Bydd y ddau fath newydd yn cael eu marchnata ledled y byd gan Germinal Holdings.
“Mae AberSpey ac AberLee yn ychwanegu at yr hyn sydd bellach yn ystod gynhwysfawr ‘Aber’ o rygwelltau Glaswellt Uchel ei Siwgr ar frig y Rhestrau o Laswelltydd a Meillion Cymeradwy” meddai’r Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion er Lles y Cyhoedd yn IBERS, wrth siarad yn Sioe Frenhinol Cymru.
“Mae bridwyr glaswellt IBERS wedi defnyddio eu technegau bridio glaswellt unigryw i adeiladu ar gryfderau amrywiadau blaenorol.
“Mae’r cyfuniad o gynnyrch deunydd sych uchel ac ansawdd eithriadol yn golygu bod y cynnyrch ME yn eithriadol yn yr amrywiadau hyn, ond wedi’u cyfuno hefyd â’r nodweddion agronomig pwysig (gorchudd, dycnwch, gwrthsefyll clefydau) sy’n sicrhau bod y glaswelltau’n perfformio yn y caeau.
“Mae’r lefelau uchel o garbohydrad (siwgr) sy’n hydawdd mewn dŵr sy’n rhan annatod o rygwelltau Aber yn deillio o raglen fridio 30-mlynedd sydd wedi canolbwyntio ar gyfuno’r ansawdd uchaf â’r holl nodweddion pwysig eraill. Mae’n newyddion gwych i ffermwyr da byw ledled y byd fod y rhaglen fridio yn mynd o nerth i nerth.”
Yr wythnos hon fe gyflwynwyd Gradd er Anrhydedd MSc i Mr Alan Lovatt sydd yn uwch fridiwr glaswellt yn IBERS am 42 o flynyddoedd o ymrwymiad i fridio glaswelltydd yn cynnwys mathau ‘Aber’ o Laswellt Uchel ei Siwgr (Aber HSG).
Mi fydd Alan Lovatt yn rhoi cyflwyniad glaswelltydd Uchel ei Siwgr Aber diweddaraf ym mhabell IBERS Prifysgol Aberystwyth ar faes Y Sioe Frenhinol – stondin rhif CCA795 - ar Ddydd Mercher 26ain Gorffennaf am 2.30 pm. Croeso i bawb.
Mae’r rhaglen bridio glaswellt yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, a ariennir gan Germinal Holdings er 1986, wedi cynhyrchu eu rhygwelltau diweddaraf uchel eu bri yng nghyfres ‘Aber’ o Laswelltydd Uchel eu Siwgr, sef y rhygwellt parhaol tetraploid canolig AberSpey a’r rhygwellt parhaol diploid hwyr AberLee.
Mae amrywiadau Aber®o Laswellt Uchel ei Siwgr wedi’u profi’n berfformwyr da o safbwynt cynnyrch deunydd sych, gwerth-D a chynnyrch Egni Metaboladwy (ME). Maent yn cynyddu’r cynnyrch o borthiant yn ogystal â lleihau effaith y diwydiant da byw ar yr amgylchedd.
Cydnabuwyd y datblygiad technolegol newydd hwn gan gyfres o wobrau uchel eu bri, gan ddechrau yn 2003 pan enillodd y Glaswellt Uchel ei Siwgr Aber cyntaf, AberDart HSG, y NIAB Variety Cup. Ers hynny, enillwyd gwobrau eraill wrth i arloesedd Glaswellt Uchel ei Siwgr Aber gael mwyfwy o effaith ar gynaliadwyedd ffermio da byw. Yn fwyaf diweddar dyfarnwyd Cwpan NIAB i AberGreen, sef yr ail amrywiad o laswellt i ennill y wobr honno.
Gwobrau’r diwydiant am fridio glaswellt (Glaswellt Uchel ei Siwgr Aber) yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth:
2003 - Cwpan NIAB (AberDart)
2007 - Gwobr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr (RASE) am Dechnoleg ac Arloesedd
2009 - Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am Addysg Uwch ac Addysg Bellach
2011 - Gwobr Rhagoriaeth gydag Effaith y Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
2011 - Gwobr Arloesedd Cymdeithas Glaswelltir Prydain
2013 - Gwobrau’r Times Higher Education am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg
2015 - Cwpan NIAB (AberGreen)