Arddangos technegau dysgu ac addysgu arloesol mewn cynhadledd i staff
Yr Athro Tim Woods yn annerch Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2017
10 Gorffennaf 2017
Dysgu gyda Lego, diwedd darlithoedd a'r defnydd o realiti rhithwir ar gyfer addysgu; dyma rai o’r meysydd sydd dan sylw mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 10 a 12 Gorffennaf 2017.
Bellach yn ei phumed blwyddyn, trefnir Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth (AUTEL) gan dîm e-ddysgu’r Brifysgol ac mae’n cynnig cyfle i rannu’r datblygiadau diweddaraf ac arfer da mewn addysgu a dysgu.
Yn ystod tri diwrnod y gynhadledd bydd arbenigwyr blaenllaw o’r Sector Addysg Uwch yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer datblygiadau mewn addysgu yn y dyfodol.
Y prif siaradwyr eleni yw Dr Rachael-Anne Knight o Brifysgol Dinas Llundain a fydd yn trafod "Technoleg Ryngweithiol a Rhagoriaeth Addysgu", Dr Kevin Burden o Brifysgol Hull a fydd yn edrych ar "Dysgu mewn Oes Symudol:? Trothwy o bwys neu gyfle a gollwyd?", a’r Athro John Robinson o Brifysgol Efrog fydd yn trafod "Gweithredu'r ‘York Pedagogy’".
Y pedwerydd prif siaradwr fydd Dr Stephen Atherton o'r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn trafod "Defnyddio Setiau Pen Realiti Rhithwir ar gyfer Dysgu ac Addysgu".
Mewn rhaglen gynhwysfawr, bydd Dr Helen Miles (Cyfrifiadureg) a Dr Sarah Higgins (Astudiaethau Gwybodaeth) ar y defnyddio o Lego ar gyfer dysgu, a Dr Neil Taylor (Cyfrifiadureg), a fydd yn mynd i'r afael â'r cwestiwn; "A yw darlithoedd yn ffordd effeithiol i gefnogi dysgu annibynnol yn y brifysgol?", ymysg cyflwynwyr eraill o Brifysgol Aberystwyth.
Dr Mary Jacob o Grŵp E-ddysgu yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn un o drefnwyr y gynhadledd. "Thema'r gynhadledd eleni, Hyrwyddo Twf Staff a Myfyrwyr, yn adlewyrchu ein nod o rymuso staff addysgu yn y Brifysgol i ddysgu i'w llawn botensial fel bod ein myfyrwyr yn mwynhau'r profiad dysgu gorau posibl.
"Ers sefydlu’r gynhadledd bum mlynedd yn ôl, rydym wedi gweld sut y gall ein staff ein hunain ysbrydoli eu cydweithwyr i wneud defnydd arloesol o dechnoleg i ddatblygu’r profiad dysgu y mae ein myfyrwyr yn ei fwynhau. Un o agweddau pwysicaf y gynhadledd yw’r sgyrsiau rhwng cydweithwyr ar draws disgyblaethau gwahanol iawn sy'n dod at ei gilydd i rannu profiadau cyffredin a chynnig atebion i rai o'r heriau mewn amgylchedd ddysgu sy'n newid yn barhaus ac yn adlewyrchu amgylchedd technolegol sydd yn newid yn gyflym.
"Mae'r defnydd eang o fideo mewn addysgu yn adlewyrchu trafodaethau a phrofiadau a rannwyd mewn cynadleddau blaenorol, fel y mae ‘Lego Serious Play’, cysyniad a drafodwyd yma gyntaf ddwy flynedd yn ôl."
Mae'r gynhadledd yn rhad ac am ddim i mynychu ac mae'n agored i bob aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cyfranu at y dysgu a’r addysgu.
Mae rhaglen lawn y gynhadledd AUTEL 2017, gan gynnwys crynodebau ar gyfer pob sesiwn ar gael i'w lawr lwytho yma. Mae modd hefyd dilyn y gynhadledd ar twitter #autel17.
Mae croeso i staff nad ydynt wedi cofrestru ymlaen llaw i fynychu’r gynhadledd. Gofynnir iddynt gofrestru yn y Felin Drafod yng nghyntedd Llandinam.