Yr ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth
Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth Heini Gruffudd(dde)a Dr Bleddyn Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
18 Gorffennaf 2017
Mae’r athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, Heini Gruffudd wedi’i urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Mae Heini yn Gadeirydd Dyfodol i’r Iaith a Tŷ Tawe, yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth (BA Cymraeg, 1967; Diploma mewn Addysg, 1968; Meistr yn y Celfyddydau, 1974), ac yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu’n ymgyrchu ers deugain mlynedd dros addysg Gymraeg ac mae’n awdur nifer o lyfrau i ddysgwyr y Gymraeg.
Arweiniodd sawl prosiect ymchwil ar y defnydd o’r Gymraeg mewn addysg ac ymhlith pobl ifanc, gan roi sylw i bwysigrwydd defnyddio’r iaith yn y cartref, yn y gymuned ac ymysg ffrindiau.
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 am Yr Erlid, sy’n cyflwyno hanes ei deulu yng Nghymru a’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd Heini Gruffudd ei gyflwyno yn Gymrawd ar ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017 gan Dr Bleddyn Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Y cyflwyniad i Heini Gruffudd:
Ddirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion a chyfeillion. Braint a phleser o’r mwyaf yw cyflwyno Heini Gruffudd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Pro Chanchellor, Vice-Chanchellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Heini Gruffudd as Fellow of Aberystwyth University.
Brodor o ddinas Abertawe yw Heini Gruffudd lle y bu cyn ymddeol yn ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion y Brifysgol, ac mae’n adnabyddus fel awdur ac addysgwr ac ymgynghorydd iaith. Fe’i magwyd ar aelwyd hynod ddiwylliedig ac eangfrydig: yr oedd ei rieni, J. Gwyn Griffiths a Kate Bosse-Griffiths yn llenorion ac yn ysgolheigion, y ddau yn Eifftolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Ei fam, Kate Bosse oedd Curadur cyntaf casgliad Canolfan Eifftaidd y Brifysgol, ac yr oedd ei dad yn Athro’r Clasuron ac Eifftoleg. Yr oedd y ddau yn genedlaetholwyr pybyr.
Mae’r gwerthoedd a gafodd ar yr aelwyd gartref wedi llywio cwrs a chyfraniad Heini i fywyd Cymru, yn arbennig felly ei waith yn hybu dwyieithrwydd trwy ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion a darparu deunydd dysgu. Seiliwyd ei gyfres boblogaidd o lyfrau ar gyfer dysgwyr ar waith ymchwil i ddulliau dysgu iaith. Mae llawer ohonom rwy’n siŵr wedi clywed am rai o deitlau’r gyfres honno, Welsh is Fun!, The Welsh Learner’s Dictionary a Street Welsh. Y mae’n cael ei gydnabod yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes, ac mae wedi cynnal nifer o weithdai ar ddysgu iaith yn rhai o wledydd Ewrop yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gomisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a chan Lywodraeth Cymru i lunio adroddiadau ar ddulliau adfer iaith. Ef ar y cyd â Steve Morris a oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil a wnaed gan Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 i Ganolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r iaith. Arweiniodd hynny at bolisi Llywodraeth Cymru o greu’r Canolfannau Cymraeg yn 2015.
Yn ogystal â’i waith yn y maes ar lefel broffesiynol, y mae hefyd wedi cyfuno ei ddiddordebau academaidd â’i ddoniau ymarferol fel ysgogydd ac arweinydd mudiadau a mentrau ar lawr gwlad. Ef oedd un o sylfaenwyr Tŷ Tawe yn 1987, canolfan sydd bellach yn gartref i Fenter Iaith Abertawe. Bu’n weithgar fel Cadeirydd y mudiad cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, a heb gyfraniad allweddol y mudiad hwnnw, go brin y buasem wedi gweld y twf aruthrol a fu yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ystod y degawdau diwethaf. Mae’n ymgyrchydd wrth reddf, a’r ysbryd ymgyrchol ymarferol, adeiladol a chadarnhaol hwnnw a’i harweiniodd i swydd Cadeirydd mudiad Dyfodol i’r Iaith, sef y mudiad a sefydlwyd i ddylanwadu’n gyfansoddiadol ar bolisi cyhoeddus a deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.
Y mae Heini hefyd yn awdur ac yn llenor. Ef yw awdur un o’r llyfrau Cymraeg sydd wedi gwerthu orau erioed, sef Enwau Cymraeg i Blant, llyfr yr ydw i’n mawr obeithio y bydd ein darpar raddedigion yn gwneud cryn ddefnydd ohono yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ond y gyfrol ganddo a wnaeth yr argraff fwyaf ar ddarllenwyr oedd Yr Erlid, sy’n olrhain hanes yr erledigaeth a ddioddefodd teulu ei fam o dan y drefn Natsïaidd yn yr Almaen. Enillodd y gyfrol Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013, a bellach mae wedi ei chyfieithu i’r Saesneg ac i’r Almaeneg. Cynhyrchwyd rhaglen ddogfen o’r enw ‘Y Trên i Ravensbrück’ gan gwmni Rondo yn seiliedig ar yr hanes, ac fe enillodd y rhaglen ddwy o wobrau BAFTA.
Y mae Heini yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y radio a’r teledu, a pha bryd bynnag y bydd yn llefaru ac yn sylwebu, fe geir ganddo’r cyfuniad anhepgorol hwnnw o rinweddau sy’n sail i drafodaeth wâr, sef gwybodaeth a doethineb, dwy briodwedd hefyd sy’n sail i fywyd a gwaith prifysgol.
Cydnabuwyd cyfraniad pwysig Heini Gruffudd i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg gan Brifysgol Abertawe trwy gyflwyno iddo ddoethuriaeth er anrhydedd. Mae’n fraint i’r brifysgol hon gael cyfle i gydnabod ei gyfraniad hefyd.
Ddirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno i chi Heini Gruffudd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Heini Gruffudd to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Heini Gruffudd gyda Miss Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor
Dirprwy Ganghellor Miss Gwerfyl Pierce Jones, Heini Gruffudd, a Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2017
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu wyth o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2017, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 18 Gorffennaf a dydd Gwener 21 Gorffennaf.
Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.
Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.
Cymrodoriaethau er Anrhydedd:
Lance Batchelor, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a Phrif Swyddog Gweithredol Saga ccc
Yr Athro Martin Conway, Cymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, ac Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes.
Gareth Howell LLB, sy’n raddedig yn y Gyfraith o Aberystwyth sydd wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol.
Heini Gruffudd BA, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth, athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Louise Rickard BSc PhD PGCE, sydd wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn raddedig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Sŵoleg, PhD Bioleg y Môr), a Phennaeth Bioleg yn Suffolk.
Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-reoleiddiwr telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia.
Graddau Baglor er Anrhydedd:
Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
David Alun Jones, Is-Lywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru a Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Canolbarth Cymru.