Cyflwyno Graddau er Cof i ddwy fyfyrwraig
Cafwyd munud o dawelwch yn ystod seremoni'r bore a'r prynhawn er cof am Caitríona Rós Lucas ac Emily Price.
20 Gorffennaf 2017
Yn ystod seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 20 Gorffennaf 2017, cafodd graddau ar ôl marwolaeth eu cyflwyno i ddwy fyfyrwraig.
Cyflwynwyd gradd ar ôl marwolaeth BSc mewn Astudiaethau Gwybodaeth BSc i Caitríona Rós Lucas, a gradd ar ôl marwolaeth BSc mewn Mathemateg a Ffiseg i Emily Price.
Caitríona Lucas
Un o Ballyvaughan yn sir Clare yn Iwerddon oedd Caitríona, 41, a dechreuodd astudio gradd BSc mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth ym Mehefin 2015.
Bu’n astudio o bell tra’n magu teulu, gweithio fel llyfrgellydd i Gyngor Sir Clare, a gwirfoddoli gyda’r Gymdeithas Chwilio ac Achub Cŵn.
Roedd hefyd yn gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau Doolin yn Iwerddon, gan gwblhau dros 700 o oriau bob blwyddyn.
Bu Caitríona farw yn ystod cyrch chwilio ac achub gyda gwasanaeth gwylwyr y glannau wedi i’r bad achub ddymchwel mewn moroedd mawr.
Yn ystod seremoni’r bore, dywedodd yr Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr yr Athrofa Datblygu Proffesiynol: “Bu farw Caitríona Rós Lucas ar 12 Medi 2016 tra’n gwasanaethu fel gwirfoddolwraig tra’n chwilio am ddyn oedd ar goll. Ymunodd Caitríona â’r gwasanaeth yn 2006 a gwasanaethodd gyda’i gŵr Bernard sydd wedi ymuno gyda ni heddiw, gyda’i mab Ben.
“Roedd Caitríona’n fyfyrwraig boblogaidd a rhagorol a byddai wedi cwblhau ei gradd yn 2017. Mae myfyrwyr a staff Aber yn cofio ei phersonoliaeth fywiog, ei hegni, brwdfrydedd, proffesiynoldeb a'i hymroddiad. Heddiw, dathlwn ei bywyd a’r hyn a gyflawnodd.
Chwith i'r dde y mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure gyda Bernard, gŵr Caitríona, a'i mhab Ben, a'r Dirprwy Ganghellor Elizabeth France.
Emily Price
Yn wreiddiol o Huntingdon, swydd Caergrawnt, daeth Emily i Aberystwyth yn 2014 i astudio Mathemateg a Ffiseg.
Ym mis Mai 2017, etholwyd Emily yn 22 oed yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth fel cynghorydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond bu farw ddiwrnodau yn unig wedi’r etholiad yn dilyn salwch byr.
Cyflwynodd Emily ei thraethawd estynedig ychydig ddyddiau cyn yr etholiad a’i bwriad oedd parhau gyda’i hastudiaethau ar safon Meistr.
Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig bu’n aelod o’r Gymdeithas Ffiseg a’r tîm ffrisbi eithafol, a bu’n gweithio fel llysgennad myfyrwyr.
Wrth annerch seremoni’r prynhawn, dywedodd yr Athro Simon Cox, Pennaeth yr Adran Fathemateg: “Synnwyd staff a’i chyd-fyfyrwyr yn fawr iawn gan y newyddion trist am farwolaeth Emily ar 12 Mai. Gwnaeth Emily gyfraniad llawn i fywyd yr adrannau Mathemateg a Ffiseg, gan rannu ei chariad at y pynciau gydag ymwelwyr i’r Brifysgol a phlant ysgol.”
“Roedd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, ac wedi ei hethol yn gynghorydd tref dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Byddwn yn cofio’n gynnes iawn amdani ac yn gweld ei heisiau yn fawr iawn, gyda’i gwên dawel a’i brwdfrydedd.”
Mae teulu Emily mewn trafodaethau gyda’r Brifysgol am sefydlu ysgoloriaeth er cof amdani.
Chwith i'r dde: Aelodau o deulu Emily, ei thad John, ei chwaer Katie a'i mham Natasha, gyda'r Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure a'r Dirprwy Ganghellor Glyn Rowlands.