Creu cymunedau dementia-gyfeillgar
Creu cymunedau dementia-gyfeillgar; aelodau o brosiect Dewis Choice (chwith i'r dde) Rebecca Zerk, Alan Clarke a Sarah Wydall
11 Gorffennaf 2017
Creu cymunedau dementia-gyfeillgar
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am bobl sydd eisiau dysgu mwy am ddementia a helpu i greu cymunedau dementia-gyfeillgar yng Nghymru.
Mae'r Prosiect Dewis Choice, sydd wedi'i leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, yn cynnal sesiwn wybodaeth Ffrind Dementia gyda’r Gymdeithas Alzheimer ar ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.
Estynnir gwahoddiad i aelod o'r gymuned yn Aberystwyth a’r cyffiniau i’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal rhwng 11:00yb a 12.30yp yn adeilad Elystan Morgan Ysgol y Gyfraith ar gampws Llanbadarn.
Dewis Choice yw’r prosiect ymchwil cymunedol cyntaf o’i fath i gynnwys pobl â dementia.
Mae'r prosiect wedi cydweithio â thimau dylunio cymunedol i greu gwasanaeth pwrpasol ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys cyfarfodydd lles teulu, sydd wedi'i deilwra ar gyfer ardaloedd o Sir Gaerfyrddin a Dinas Caerdydd.
Mae'r gwasanaeth bellach yn cael ei gynnig i deuluoedd o'r ddwy ardal hyn.
“Mae ein gwaith ymchwil wedi amlygu'r gwerth mae pobl yn ei roi ar rwydweithiau teuluol a dod o hyd i ffyrdd o wella cyfathrebu, yn enwedig wrth addasu i anghenion aelod o'r teulu sy'n byw gyda dementia yn ddiweddarach mewn bywyd”, meddai Sarah Wydall, Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyd-Brif Ymchwilydd ar y prosiect.
Mae'r Prosiect hefyd yn cynnal ymchwil helaeth ar draws Cymru, sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol ac unigolion o bob oed, gan archwilio agweddau tuag at heneiddio, yr hyn mae pobl yn ei werthfawrogi yn eu perthynas wrth iddynt fynd yn hŷn, a hyrwyddo lles ar gyfer pobl hŷn.
“Mae codi ymwybyddiaeth o’r maes hwn lle na welwyd ymchwil digonol yn hanfodol ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad gwirfoddolwyr drwy weithgareddau megis cymryd rhan mewn grwpiau trafod a dweud wrthym am eu cymuned”, meddai Sarah Wydall.
“Os oes gennych ychydig oriau i'w sbario ac os hoffech gyfrannu at wneud Cymru yn lle gwell i bobl hŷn, hoffem glywed gennych”, ychwanegodd.
I gadw lle neu i gael mwy o wybodaeth am y sesiwn wybodaeth Ffrindiau Dementia, cysylltwch gyda’r trefnydd Elize Freeman ar 01970 621934 / choice@aber.ac.uk.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y Prosiect Dewis Choice ar-lein yma, trwy ddilyn y prosiect ar Twitter @choiceolderppl neu ar Facebook.