Profi camerâu ExoMars yng Ngwlad yr Iâ
PanCam ger Creigiau Brimham yn Swydd Efrog, lle bu’r tîm yn cynnal profion maes ar ei alluoedd mesur 3D.
31 Gorffennaf 2017
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol St Andrews yn mynd i Wlad yr Iâ'r wythnos hon wrth i'r gwaith barhau i ddatblygu offer prosesu data ar gyfer system camera taith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth yn 2020 fynd rhagddo.
PanCam, sy'n cael ei ddatblygu gan dîm a arweiniwyd gan Labordy Gwyddoniaeth Gofod Mullard UCL, fydd llygaid crwydryn ExoMars, a bydd y delweddau a gynhyrchir yn allweddol i lwyddiant y daith.
Mae Dr Matt Gunn a chydweithwyr o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg yn Aberystwyth yn rhan o dîm rhyngwladol sy'n datblygu a phrofi llinellau prosesu data'r camera er mwyn galluogi'r camera i dynnu lluniau lliw cywir a mesuriadau 3D o nodweddion daearegol ar y blaned Mawrth.
Mae Dr Gunn a’r tîm wedi datblygu targed graddnodi lliw a ysbrydolwyd gan dechnoleg gwydr lliw eglwysi cadeiriol o’r canol oesoedd, sy’n gallu wrthsefyll lefelau uchel iawn o olau uwch-fioled ar y blaned.
Mae'r tîm o Aberystwyth hefyd wedi datblygu Drych Arolygu'r Crwydryn a fydd yn galluogi PanCam i gipio "hunluniau" o’r crwydryn er mwyn gwirio am ddifrod neu broblemau yn ystod y daith.
Yn ddiweddar dychwelodd Dr Gunn o Greigiau Brimham yn Swydd Efrog, lle bu’r tîm yn cynnal profion maes ar alluoedd mesur 3D PanCam.
Mae Dr Gunn wedi bod yn datblygu llinell brosesu a graddnodi a fydd yn trosi’r delweddau crai yn lluniau lliw llawn o greigiau er mwyn galluogi daearegwyr i adnabod creigiau a allai awgrymu presenoldeb dŵr hylifol.
Yn ystod y daith hon i Wlad yr Iâ bydd y tîm yn profi sut mae PanCam yn cofnodi lliwiau gan ddefnyddio ei uwch-dechnoleg aml-sbegtrwm
Tra bod pobl yn gweld tri lliw - coch, gwyrdd a glas - mae camerâu PanCam yn medru ‘gweld’ mewn 22 lliw gwahanol, gan gynnwys is-goch, sydd yn anweledig i lygad dynol.
Tra’n gweithio ar arfordir gogleddol Gwlad yr Iâ, bydd Dr Gunn a’i gydweithwyr yn profi gallu’r camera hynod sensitif hwn i gofrestru gwahaniaethau cynnil iawn mewn lliw, a hynny mewn tirwedd sydd yn amddifad i raddau helaeth o blanhigion gwyrdd.
Dywedodd Dr Gunn: "Rydym wedi dewis Gwlad yr Iâ ar gyfer y gwaith hwn gan ein bod angen amgylchedd heb ormod o blanhigion gwyrdd llawn cloroffyl, a lle ceir math penodol o graig. Mae'r camera yn sensitif iawn gan fod y gwyddonwyr sy'n gweithio gyda'r delweddau hyn yn chwilio am newidiadau cynnil iawn mewn lliw. Nid yw'r delweddau yn lluniau lliw arferol; byddant yn cael eu defnyddio er mwyn adnabod y gwahanol fathau o greigiau ar y blaned Mawrth. Mae'n hysbys bod rhai creigiau yn ffurfio mewn amgylcheddau gwlyb, felly gallai dehongli'r delweddau yn gywir gynorthwyo gwyddonwyr wrth iddynt chwilio am arwyddion posibl o fywyd.”
Hwn fydd yr ail dro i PanCam gael ei brofi yng Ngwlad yr Iâ, a bydd profion pellach yn cael eu cynnal yn ystod y ddwy flynedd nesaf mewn lleoliadau anghysbell eraill, gan gynnwys Utah yn yr Unol Daleithiau a'r Anialwch Atacama yn ne America.
Mae Dr Gunn a chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol St Andrews a Choleg Imperial Llundain yn ogystal â nifer o gydweithwyr rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Andrew Coates o Labordy Gwyddoniaeth Gofod Mullard UCL, sydd yn arwain ymchwil PanCam ar grwydryn ExoMars 2020: "Mae treialon maes fel rhain yn rhan bwysig o waith paratoi'r tîm ar gyfer y gwaith a wneir ar y blaned Mawrth. Mae Efelychwr PanCam Prifysgol Aberystwyth yn efelychiad allweddol o'r offeryn go iawn rydym yn ei adeiladu. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld y data o'r treialon, ac o PanCam ei hun pan fydd y crwydryn yn glanio ar y blaned Mawrth yn 2021.”
Mae gwaith Dr Gunn a chydweithwyr o St Andrews ar PanCam yn cael ei gyllido gan Asiantaeth Ofod y DU.