Meistri newydd
01 Mawrth 2013
Rheolaeth a Busnes a’r Gyfraith a Throseddeg yn lansio cyrsiau newydd ôl-raddedig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14 ar y 13eg o Fawrth.
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
04 Mawrth 2013
Bydd y godwraig pwysau Olympaidd Natasha Perdue yn un o'r siaradwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Mawrth i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Ymgais record Bioblitz
05 Mawrth 2013
Gwyddonwyr IBERS yn gobeithio cofnodi’r nifer mwyaf mewn un diwrnod o rywogaethau a geir ar gampws prifysgol drwy gynnal Bioblitz ar 11 Mai.
Rheolwyr yr Athrofeydd newydd
06 Mawrth 2013
Y Brifysgol yn cyhoeddi penodi rheolwyr i’r Athrofeydd newydd fydd yn weithredol o Awst 2013.
Darganfyddiad graffin
07 Mawrth 2013
Ymchwilwyr Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn datblygu techneg newydd o gynhyrchu graffin, y defnydd teneuaf a grewyd erioed.
Dathlu Pythefnos Masnach Deg
06 Mawrth 2013
Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn dathlu Pythefnos Masnach Deg gydag nifer o hyrwyddiadau arbennig.
Comisiwn y Gyfraith y Aberystwyth
07 Mawrth 2013
Comisiwn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod creu Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig.
Darlith Goffa E H Carr
08 Mawrth 2013
Yr academydd blaenllaw o Dde Affrica, yr Athro Peter Vale, i draddodi Darlith Goffa E H Carr ar ddydd Iau 14 Mawrth.
Hwb i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
08 Mawrth 2013
Aberystwyth yn sicrhau pedair darlithyddiaeth newydd i ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwaed ar y Glo
13 Mawrth 2013
Sioe hanes ar daith, sy’n cael ei threfnu gan yr hanesydd Dr Steven Thompson, yn ystyried y pris a dalwyd gan ddyn wrth weithio yn y diwydiant glo yn ne Cymru.
Democratiaeth a iawnderau dynol
15 Mawrth 2013
Uwch ddiplomat o’r Unol Daleithiau, Thomas O. Melia, i draddodi darlith flynyddol Sefydliad Coffa David Davies yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddydd Mawrth 19 Mawrth.
Cysylltiadau gyda phrif gyflogwyr
15 Mawrth 2013
Mae rhai o brif recriwtwyr graddedigion y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn gweithio gyda Gwasnaeth Gyrfaoedd y Brifysgol i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu technegau cyfweld.
Dyfeisio a Darganfod
18 Mawrth 2013
Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg gyda gŵyl wyddoniaeth dri diwrnod yr wythnos hon, dydd Mawrth 19 tan ddydd Iau 21 Mawrth.
Entrepreneur iaith yn ennill £20,000
19 Mawrth 2013
Jake Stainer, myfyrwyr ail flwyddyn Marchnata a Sbaeneg a sylfaenydd y wefan ddysgu ieithoedd Papora.com, yn cipio Gwobr CaisDyfeisio ac £20,000.
Noson wybodaeth Clefyd y Siwgr
20 Mawrth 2013
Mae Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Noson Wybodaeth Clefyd y Siwgr am 7 o’r gloch yr hwyr ar nos Iau 21 Mawrth 2013.
Gwella effeithlonrwydd ffermydd
20 Mawrth 2013
Ymchwil o’r Ysgol Reolaeth a Busnes yn cynorthwyo ffermwyr i fesur effeithlonrwydd eu busnes.
Y Daith Oeraf
26 Mawrth 2013
Ymchwilwyr o IBERS yn astudio microbau cudd ar y Daith Oeraf, yr ymgais gyntaf erioed i geisio croesi'r Antarctig yn y gaeaf.
Lansio cyrisau theatr newydd
28 Mawrth 2013
Aberystwyth yn lansio cyrsiau dysgu wedi eu lleoli yn y gweithle ar gyfer staff proffesiynol sy’n gweithio yn y theatr neu’r celfyddydau perfformio.
Llwyddiant llaeth
28 Mawrth 2013
Owen Ashton, myfyriwr o IBERS sy’n ei drydedd flwyddyn yn cipio gwobr Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn