Gwella effeithlonrwydd ffermydd

Ŵyn.

Ŵyn.

20 Mawrth 2013

Mae academyddion o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth wedi dyfeisio system newydd a fydd yn helpu ffermwyr Cymru i fesur effeithlonrwydd eu busnes.

Bydd y gyfrifiannell effeithlonrwydd oen newydd, a gynhyrchwyd gan y Brifysgol ar gyfer Hybu Cig Cymru (HCC), yn cynorthwyo ffermwyr i werthuso perfformiad eu diadell a'i gymharu gyda mentrau defaid eraill yng Nghymru.

Y llynedd, cyhoeddodd HCC a'r Brifysgol eu bod wedi dyfeisio cyfrifiannell ar-lein newydd i helpu ffermwyr i gael y pris gorau ar gyfer eu hŵyn.

Mae hyn wedi cael ei ddatblygu diolch i ymchwil Dr Nishikant Mishra, Darlithydd Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, ac arbenigedd Wyn Morris, Cymrawd Addysgu mewn Rheolaeth yn y Brifysgol.


Eglurodd Mr Morris, "Nid ydym yn gofyn i ffermwyr wneud newidiadau mawr i'w systemau cynhyrchu. Nod y gyfrifiannell hon yw codi ymwybyddiaeth a chynorthwyo ffermydd gyda phenderfyniadau ar y fferm. Gall mân addasiadau i system gynhyrchu gael cryn effaith ar elw fferm a gwella effeithlonrwydd y fenter."

Mae'r ychwanegiad diweddaraf yn un o saith cyfrifiannell sydd ar gael ar wefan HCC sydd hefyd yn cynnwys cyfrifianellau ar gyfer cost cynhyrchu cig oen a chig eidion, porthiant y gaeaf a lloia i helpu ffermwyr i werthuso eu perfformiad busnes.

Mae ymchwil Dr Mishra yn canolbwyntio ar fodelu mathemategol, a datblygu heuristics ac algorithmau ar gyfer problemau gweithgynhyrchu, cynllunio ac amserlennu. Roedd Wyn Morris yn ymchwilydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad cyn ymuno â’r Ysgol Rheolaeth a Busnes. Mae hefyd yn rhedeg ei fferm ei hun. Mae'r gyfrifiannell yn ganlyniad ymchwil o'r radd flaenaf a dealltwriaeth fanwl o economi fferm.

Cynhyrchwyd y gyfrifiannell gan yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar gyfer HCC trwy arian a dderbyniwyd gan Gynllun Datblygu Cymru Wledig 2007 - 2013.  Mae ar gael ar wefan HCC: http://hccmpw.org.uk/farming/online_benchmarking/lamb_efficiency_calculator/


AU10413