Gwaed ar y Glo
Dr Steven Thompson
13 Mawrth 2013
Bydd sioe ar daith, a gynhelir yn Abertawe yn ystyried y pris a dalwyd gan ddyn wrth weithio yn y diwydiant glo yn ne Cymru. Trwy amrywiaeth o weithgareddau, perfformiadau ac arddangosfeydd, bydd haneswyr, aelodau undebau llafur, meddygon, cyn-lowyr ac aelodau o’r cyhoedd yn trafod yr aberth a wnaed gan bobl de Cymru dros y dau gan mlynedd diwethaf wrth weithio yn y diwydiant glo.
Bydd Gwaed ar y Glo: Sioe ar Daith ar Hanes Anabledd, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth, yn canolbwyntio ar y peryglon a wynebai glowyr yn eu gwaith bob dydd ac yn ystyried y canlyniadau a brofwyd yn sgil gweithio yn yr amodau peryglus, afiach hyn.
Yn ôl trefnydd y digwyddiad, Dr Steven Thompson, amcan y sioe ar daith hon yw archwilio gwahanol agweddau o waith yn y diwydiant a’r graddau yr arweiniodd y gwaith hwn at amhariadau ac anabledd parhaol.
“Roedd de Cymru yn cael ei ystyried fel un o’r meysydd glo mwyaf peryglus ym Mhrydain o ganlyniad i’r nifer uwch o ddamweiniau, y peryglon amrywiol o du clefydau galwedigaethol, yn enwedig afiechydon yr ysgyfaint, a’r cyfraddau anabledd uwch”, dywedodd.
“Rwy’n siwr fod pawb ohonom a gafodd ein magu yn y cymunedau glofaol yn cofio’r dynion niferus hynny heb goes neu’r rheiny a oedd yn dioddef o ddiffyg anadl. Roedd anabledd o’n cwmpas yn gyson ond roedd eto bron yn anweledig gan ei fod yn rhywbeth mor gyffredin. Bydd y sioe ar daith ar hanes anabledd yn rhoi sylw i’r pris a dalwyd gan ddyn yn y diwydiant glo gan roi pwyslais ar brofiadau ac agweddau yr unigolion a weithiodd yn y diwydiant.”
Bydd cyfres o sgyrsiau byrion gan haneswyr, arweinwyr undebau llafur, meddygon a churaduron amgueddfa yn archwilio gwahanol agweddau ar waith, clefydau ac anabledd yn y diwydiant glo. Bydd un sesiwn, a gadeirir gan Dr Hywel Francis, AS Aberafon, yn ystyried y brwydrau i ennill iawndaliadau ar gyfer gweithwyr wedi’u hanafu.
Dywedodd Dr Francis; “Mae gan lowyr de Cymru draddodiad hir o weithredu er mwyn gwella safonau diogelwch, amodau gwaith ac iawndaliadau, ac felly bydd y sioe ar daith hon yn rhoi cyfle arbennig i ni ystyried y gweithredu hwn a’r canlyniadau ar gyfer glowyr anabl. Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd gan aelodau eraill y panel, ac aelodau’r gynulleidfa, i’w gyfrannau at y drafodaeth”.
Ymhlith y gweithgareddau eraill a gaiff eu cynnal, bydd perfformiadau o faledi glowyr a darlleniadau o ffynonellau llenyddol ac hanesyddol. Bydd stondinau gan archifdai yn ne Cymru, gwerthwyr llyfrau hynafiaethol, cymdeithasau hanes, a chymdeithasau hanes teuluoedd yn arddangos dogfennau, ffotograffau ac arteffactau yn ymwneud â’r diwydiant yn bresennol hefyd.
Dywedodd Dr Thompson; “Bydd llawer ar gael i ymwelwyr ei brofi ond rydym ni fel trefnwyr y diwrnod yn awyddus i glywed am brofiadau neu atgofion gan trigolion y cymunedau glofaol hefyd. Bydd Casgliad y Werin Cymru yn bresennol i ddigido dogfennau neu ddelweddau neu i recordio atgofion ymwelwyr o’r diwydiant glo a’u profiadau o anafiadau a salwch. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn fodlon mynd i chwilio am eu halbymau ffotograffau a’u dogfennau teuluol, a dod â nhw i’r sioe er mwyn eu rhannu gyda ni”.
Bydd y sioe ar daith yn agor am 10:30 y bore ac yn para tan 4 y prynhawn, gydag amrywiaeth o weithgareddau trwy’r dydd. Ceir copi o’r rhaglen llawn ar www.dis-ind-soc.org.uk/ Mynediad am ddim a chroeso cynnes i bawb.
Mae Sioe Ar Daith Hanes Anabledd yn gysylltiedig â phrosiect ymchwil pum mlynedd a ariannir gan Ymddiriedolaeth Wellcome dan y teitl ‘Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol: Hanes Diwylliannol Cymharol Meysydd Glo Prydain, 1780-1948’. Arweinir y prosiect gan yr Athro Anne Borsay, Prifysgol Abertawe ac mae’n cynnwys aelodau o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Northumbria, Strathclyde a Glasgow Caledonian. Mae’r prosiect yn defnyddio tri achos enghreifftiol, sef meysydd glo de Cymru, gogledd-ddwyrain Lloegr, a’r Alban, i archwilio profiadau a dealltwriaeth o anabledd yn y diwydiant glo. Ymysg allbynnau’r prosiect bydd cyhoeddiadau academaidd, darlithiau cyhoeddus a sioeau ar daith ar hanes anabledd yn y tri maes glo, yn ogystal ag arddangosfa a fydd yn dechrau yn Abertawe ym 2015 ac wedyn yn teithio ledled Cymru.
Wellcome Trust
Mae’r Wellcome Trust yn sefydliad elusennol byd-eang sy'n ymroddedig i sicrhau gwelliannau neilltuol mewn iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae'n cefnogi’r meddyliau gorau ym maes ymchwil biofeddygol a'r dyniaethau meddygol. Mae ehangder cymorth yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd, addysg a chymhwyso ymchwil i wella iechyd. Mae'n annibynnol o fuddiannau gwleidyddol a masnachol. www.wellcome.ac.uk
AU10313