Llwyddiant llaeth

Chwith i’r Dde: Nick Everington o Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain, Dr Mike Rose o IBERS, enillydd y gystadleuaeth Owen Ashton a Mike Sheldon o Dairy Crest.

Chwith i’r Dde: Nick Everington o Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain, Dr Mike Rose o IBERS, enillydd y gystadleuaeth Owen Ashton a Mike Sheldon o Dairy Crest.

28 Mawrth 2013

Derbyniodd Owen Ashton gwobr ariannol o £1,000 yn Llundain ar 22 Mawrth 2013 a bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn £500 tuag at brosiect addysg yn y sector llaeth.

Digwyddodd rownd ragarweiniol y gystadleuaeth a gynhaliwyd gan Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydain  (RABDF) gyda chefnogaeth Dairy Crest y mis diwethaf. Daeth  panel o feirniaid ynghyd i holi’r 11 ymgeisydd ar y rhestr fer ar sut y gallai fferm laeth wneud lle yn ariannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Yna aeth chwech o’r ymgeiswyr ymlaen i'r rownd nesaf i wneud cyflwyniad ar y manteision a’r anfanteision sy’n wynebu ffermwyr llaeth Prydain o’u cymharu â'u cystadleuwyr.

Yn dilyn hynny roedd gofyn i’r pedwar ymgeisydd yn y rownd derfynol wneud cyflwyniad ffurfiol yn Llundain ar sut y bydden nhw’n hyrwyddo eu gyrfa yn y maes llaeth a pha rwystrau sy’n eu hwynebu.

Owen Ashton sy'n hanu o Navan, Swydd Meath yn Iwerddon oedd yr  unig ymgeisydd nad oedd o gefndir amaethyddol. Mae'n ddiolchgar i’w ewythr Roger Lewis am roi profiad ymarferol iddo ar ei uned gymysg ger Wrecsam yn ystod pob gwyliau.

Mae Owen a fydd yn graddio eleni, eisoes wedi sicrhau swydd fel rheolwr buches yn Swydd Henffordd. O fewn 10 mlynedd mae'n bwriadu sicrhau cytundeb menter ar y cyd a’i nod yw prynu gwartheg gyda’i gynilion. "Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd i dderbyn y wobr hon," meddai.

"Rwy'n credu mai un o'r heriau mwyaf i mi a fy nghyfoedion yw dod o hyd i gyfleoedd i fynd i mewn i'r sector. Hoffwn weld cymhellion ymarferol yn dod ar gael i ni i ffermio am y tro cyntaf,  a hoffwn weld rhagor o wybodaeth am fentrau ar y cyd, diwrnodiau cyfateb a chyfarfodydd lle gallwn ddod at ei gilydd i rannu syniadau. "

Ychwanegodd "Mae'r sylfaen, y gefnogaeth a’r help rwyf wedi'i derbyn gan fy narlithwyr yn IBERS wedi fy helpu i ennill y wobr hon yn enwedig gan nad yw fy rhieni yn ffermio. Maen nhw wedi fy helpu i wireddu fy uchelgais ac rwy'n bwriadu rhoi'r arian a enillais tuag at brynu fy heffrod cyntaf. "

Wrth longyfarch Owen dywedodd Mike Rose, Darlithydd yn IBERS: "Mae addysg a hyfforddiant yn y gwyddorau amaethyddol yn dod yn fwyfwy pwysig, gan fod gofynion amaethyddiaeth fodern yn dod yn fwy technegol. Mae Owen wedi gwneud yn wych ar bob cam o'r gystadleuaeth, yn arbennig drwy ddangos ei wybodaeth sylweddol o systemau llaeth sy'n seiliedig ar laswellt. O ystyried brwdfrydedd Owen yn y maes hwn, mae IBERS yn bwriadu gwario’r £500 y byddwn yn derbyn fel rhan o'r wobr ar gyfarpar er mwyn i fyfyrwyr ddysgu sut i fesur cynnyrch glaswellt ar y fferm. "

"Mae dyfodol disglair i Owen yn y diwydiant llaeth. Mae ganddo syniad clir o sut mae'n bwriadu dechrau yn y diwydiant a'i wneud yn llwyddiant. Mae ganddo gynlluniau pendant i adeiladu cynllun partneriaeth rhannu gwartheg gan ddechrau eleni. Dan y system hon mae perchennog tir a rheolwr yr anifeiliaid yn cyd-berchen y gwartheg. Mae hyn yn caniatáu i'r rheolwr adeiladu are ei fuddsoddiad yn y busnes dros gyfnod o amser, tra bod y perchennog yn gallu bod yn sicr bod ganddo rywun brwdfrydig i ymgymryd â'r gwaith o redeg y fenter o ddydd i ddydd. Gall hyn fod yn ffordd ardderchog i newydd-ddyfodiaid ddechrau yn y diwydiant llaeth. "

"Mae cynhyrchu llaeth yn rhan bwysig o'r cyrsiau gradd Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Brifysgol wedi cadarnhau’r ymrwymiad hwn yn ddiweddar drwy fuddsoddi £1miliwn mewn siediau a pharlwr godro newydd o'r radd flaenaf ar ein fferm laeth yn Nhrawsgoed. Bydd y parlwr godro a dderbyniodd gymorth gan BBSRC yn sail gadarn i staff a myfyrwyr ar gyfer addysgu ac ymchwil . "

AU12013