Lansio cyrisau theatr newydd
![Yn lansio Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Aberystwyth (Chwith i’r Dde) mae Tony Orme, Rheolwr Menter, Richard Cheshire, Arweinydd Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, a Dr Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol.](/cy/news/archive/2013/03/web-photo.jpg)
Yn lansio Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Aberystwyth (Chwith i’r Dde) mae Tony Orme, Rheolwr Menter, Richard Cheshire, Arweinydd Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, a Dr Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol.
28 Mawrth 2013
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig y cyfle i ennill cymhwyster Addysg Uwch yn rhad ac am ddim i unigolion yn y diwydiant theatr drwy'r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r Rhaglen DSW yn darparu cyrsiau cryno, byr cydnabyddedig Prifysgol sydd wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau tra bod gweithiwr neu gyflogwr yn parhau i weithio. Bydd yn caniatáu i berson gael uchafswm o 60 credyd Brifysgol, sy'n cyfateb i ddiploma Prifysgol.
Eglurodd Richard Cheshire, arweinydd y prosiect DSW ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn cynnig dau gwrs sydd â'r nod o ymestyn a gwella gwybodaeth unigolyn a'u dealltwriaeth o brosesau ac arferion theatr.
"Gall pobl sy'n gwneud cais fod yn gymwys ar gyfer cyllid rhannol neu llawn ar gyfer y cyrsiau. Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cymhwyster addysg uwch oherwydd bod y farchnad swyddi yn mynd yn fwy a mwy cystadleuol ac y byddai’n gwella sgiliau a gwybodaeth yr unigolyn."
Ychwanegodd Is-Ganghellor y Brifysgol, April McMahon: "Un o'n hamcanion yw creu mwy o gyfleoedd i bobl sy'n astudio yma drwy ddatblygu eu sgiliau a gwneud y mwyaf o'u potensial.
"Y peth gwych am y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yw y gall unigolyn ennill cymhwyster Prifysgol tra'n dal i weithio a allai wella datblygiad personol a gyrfa unigolyn yn aruthrol. Mae unigolion yn elwa ar arbenigedd yn y Brifysgol, ond mae'r Brifysgol hefyd yn elwa o fewnwelediad yn uniongyrchol o’r gweithle."
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid, bydd angen i chi fod yn gyflogedig yn y sector preifat ac yn byw neu'n gweithio yn y Rhanbarth Cydgyfeirio Cymru sy'n cynnwys 15 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn eu plith Ceredigion, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Bydd Aberystwyth yn cynnig dau gwrs. Y cyntaf fydd cwrs Mentora Gweithiwr Theatr sy'n anelu at wella sgiliau beirniadol a chreadigol unigol yn y meysydd actio, cyfarwyddo theatr, dylunio a thechnegol a rheoli llwyfan.
Yr ail fydd cwrs Datblygiad Creadigol Cwmni, a fydd yn darparu cyfle i weithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant celfyddydau perfformio i ddatblygu ac ymestyn eu medrau creadigol a’i sgiliau mewn pynciau penodol.
Mae’r cyrsiau yn dechrau ym mis Mai 2013, ac mae disgwyl i un cwrs gymryd tri mis i’w gwblhau tra’n astudi’n rhan amser. Os yw’r cyrsiau o ddiddordeb cysylltwch â Rebecca Edwards yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (TFTS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 01970 621651.
Dysgu Seiliedig ar Waith
Mae'r rhaglenni £3.2bn Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru. Mae'r rhaglenni yn cael eu darparu drwy Lywodraeth Cymru ac yn cael eu hanelu at greu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd.
TFTS
Mae'r Adran yn darparu cyfleoedd addysg ac ymchwil o safon uchel i fyfyrwyr a ddaw o Gymru, Prydain, Ewrop a thu hwnt. Fel un o'r Adrannau mwyaf, a mwyaf arwyddocaol o'i bath, ei chenhadaeth hanesyddol yw i ateb anghenion ac uchelgeision amrywiol ei haelodau a rhan ddeiliaid. Mae'r Adran wedi ymroi i gynnal ymchwil dra-blaengar a darparu rhaglenni arloesol ar draws ei disgyblaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r Adran yn ymfalchïo yn ei gallu i ddatblygu a magu ysgolheigion ac arweinwyr diwydiant y dyfodol.
AU11013