Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

04 Mawrth 2013

Bydd y godwraig pwysau Olympaidd Natasha Perdue yn un o'r siaradwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Mawrth i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Ganwyd Natasha yn Abertawe a chynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2006 a 2010 a bu’n aelod o dîm codi pwysau Prydain yn Llundain 2012.

Bydd yn ymuno â merched eraill lleol o fyd y campau a fydd yn trafod eu profiadau, bywyd chwaraeon a’r hyn sydd yn eu hysbrydoli mewn digwyddiad Merched y Byd Chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol am 6.30 yr hwyr.

Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen pedwar diwrnod sy’n rhedeg o'r 6ed tan y 9fed o Fawrth ac wedi ei chydlynu gan Adran Seicoleg y Brifysgol.

Gan ddechrau gyda thrafodaeth am ferched mewn gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar nos Fercher 6ed Mawrth, mae’r rhaglen yn cynnwys dathliad o Ferched Prifysgol Aberystwyth yn Llyfrgell Hugh Owen a llwybr llinell amser o amgylch campws Penglais sy’n tynnu sylw at adegau allweddol i ferched mewn gwyddoniaeth.

Bydd y rhaglen yn cloi gyda chwis gwyddoniaeth (agored i ddynion a merched) sy’n cael ei gynnal gan yr Adran Gyfrifiadureg a changen canolbarth Cymru o’r BCS - y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys digwyddiad cymunedol Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn neuadd Clwb Bocsio Penparcau rhwng 10am a 2.45pm ddydd Gwener 8fed Mawrth.

Esboniodd Dr Rachel Horsley, cydlynydd y digwyddiadau a darlithydd mewn seicoleg: "Mae’r digwyddiadau yma’n ffordd o ddathlu cynnydd a chyflawniadau merched mewn ffordd hwyliog. Mae cymysgedd iach o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y pedwar diwrnod, gyda'r mwyafrif ohonynt yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener 8 Mawrth i gyd-fynd â'r diwrnod ei hun. Cymrwch olwg ar ein gwefan am fwy o wybodaeth am bob digwyddiad i gadw eich lle. "

Manylion llawn y rhaglen ar-lein ar gael yn http://bit.ly/XRKjHI.

AU7813