Meistri newydd

01 Mawrth 2013

Mae Newid Hinsawdd a Hawliau Dynol, a Menter a Rheoli Arloesi ymhlith ystod o raddau ôl-raddedig newydd sy'n cael eu lansio gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a'r Ysgol Rheoli Busnes Prifysgol Aberystwyth ar gyfer mis Medi 2013.

Bydd y cyrsiau meistr wedi eu dysgu newydd yn cael eu lansio mewn noson agored rhwng 4 a 6 o’r gloch brynhawn Mercher 13 Mawrth yn Ystafell Gynhadledd y Gyfraith, Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais.

Bydd staff academaidd wrth law i gynghori ar y rhaglen lawn o gyrsiau a'r cymorth ariannol, ar ffurf bwrsariaethau, sydd ar gael.

O Awst 2013 bydd Rheolaeth a Busnes a’r Gyfraith a Throseddeg, ynghyd ag Adran Astudiaethau Gwybodaeth, yn dod yn rhan o Athrofa amlddisgyblaethol arloesol newydd.

Bydd hyn yn hwyluso gweithio agosach ar draws Adrannau, ac mae’n cynnwys cynlluniau ar gyfer gwell adnoddau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, fel rhan o gymuned fywiog sydd â sail broffesiynol iddi.

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa newydd: "Mae cyflogadwyedd ein myfyrwyr ôl-raddedig yn hollbwysig. Mae'r economi fyd-eang yn golygu bod hwn yn amser heriol ac mae yna gydnabyddiaeth eang ei bod yn bwysig i fyfyrwyr sicrhau’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i sicrhau gwaith.” 

"Mae'r cynlluniau gradd ôl-raddedig newydd yn adeiladu ar enw da'r ddwy Adran mewn addysgu ac ymchwil. Bydd y dysgu ac arweinyddiaeth y cyrsiau yn cael eu darparu gan aelodau staff sydd yn gwneud gwaith ymchwil â llawer ohonynt yn enw da cenedlaethol a rhyngwladol am eu hymchwil."

Canfu Astudiaeth Profiad Addysgir Ôl-raddedig 2012 yr Academi Addysg Uwch fod 78% o fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyrsiau a addysgir yn teimlo bod eu rhagolygon cyflogaeth yn well, tra bod oddeutu 73% yn cytuno eu bod yn paratoi'n well ar gyfer cyflogaeth.

Ychwanegodd yr Athro Henley: "Mae’r canfyddiadau yma’n galonogol ac yn hyderus y bydd ein cynlluniau newydd yn bodloni disgwyliadau ac anghenion myfyrwyr. Os yw myfyrwyr yn teimlo'n fwy hyderus ac yn meddu ar y wybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i gyflogwyr, bydd hyn yn gwella eu rhagolygon cyflogaeth. "

Mae'r portffolio o gyrsiau Rheoli a Busnes yn cynnwys Rheolaeth Menter ac Arloesi, Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, Rheolaeth a Rheolaeth Twristiaeth, Rheolaeth a Busnes a Digidol a Rheolaeth, y cyfan ar gael i raddedigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau eraill.

Ymhlith y cynlluniau mwy arbenigol mae Marchnata, Marchnata Digidol, Twristiaeth Marchnata, Busnes Rhyngwladol, Cyllid Rhyngwladol, Cyllid Rhyngwladol a Chyfrifeg, a Chyllid a Bancio Rhyngwladol.

Mae cynlluniau’r Gyfraith a Throseddeg yn cynnwys Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Newid Hinsawdd a Hawliau Dynol, Cyfraith Technoleg Gwybodaeth, Masnach y Rhyngrwyd a'r Gyfraith, Hawliau Dynol a Datblygu, Hawliau, Rhyw a'r Gyfraith Ryngwladol, a Chyfraith Busnes Rhyngwladol ac Iawnderau Dynol.

Mae’r Gyfraith a Throseddeg hefyd wedi ehangu’r ystod o raddau dysgu o bell, gan adeiladu ar ugain mlynedd o brofiad yn darparu cyrsiau ar y ffurf yma. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfraith a Rheolaeth Amgylcheddol, Hawliau Dynol a Chyfraith Ddyngarol, Cyfraith Technoleg Gwybodaeth, Cyfraith Ryngwladol Busnes, Cyfraith Ryngwladol Busnes a Chyfraith Amgylcheddol, a Chyfraith Amgylcheddol ac Iawnderau Dynol.

Dywedodd yr Athro John Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig yn Adran y Gyfraith a Throseddeg: "Mae'r themâu a fabwysiadwyd ar gyfer ein cynlluniau yn adlewyrchu natur ryngwladol y farchnad gyflogaeth, nid yn unig yn yr ardaloedd masnachol a busnes, ond mewn troseddu a throseddeg, yr amgylchedd a’r byd digidol."

Ceir rhagor o wybodaeth am Astudio Ôl-raddedig yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ar-lein yn http://www.aber.ac.uk/en/law-criminology/postgraduatestudies/.

Ceir rhagor o wybodaeth am Astudio Ôl-raddedig yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar-lein yn http://www.aber.ac.uk/en/postgrad/postgraduate-courses/taughtcourses/smba/.

AU8113