Sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn 2015 i fynd i’r afael â’r diffyg cyngor cyfreithiol yng Nghymru gan gysylltu cyn-filwyr â gwasanaethau arbenigol. Mae'r prosiect yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim, cyfeirio arbenigol, gwaith achos ac eirioli ym meysydd dyled a thai, ysgaru, teulu a phlant, gwaith, a cheisiadau anafiadau milwrol i gyn-filwyr yng Nghymru.
Cysylltu: info@veteranslegallinkuk.org
Facebook: Tudalen Facebook Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr
Seiliwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr er mwyn i gyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith allu defnyddio eu sgiliau i ddod â chyfiawnder cyfartal i gyn-filwyr a'u teuluoedd mewn angen sy'n byw yng Nghymru.
Ers ei sefydlu yn 2015 gan, Dr Olaoluwa Olusanya Darllenydd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant o £20,000 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn agos at £5,000 gan Gronfa'r Loteri Fawr, ac mae'n dibynnu'n helaeth ar rwydwaith o glinigau cyfreithiol gwirfoddol, elusennau a sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth Ceredigion, Gweithredu ar gyfer Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru, a Chyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion.
Yn ogystal â helpu cyn-filwyr ac ymgymryd â'i ymchwil ei hun, mae'r prosiect hwn yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr, gan ddangos iddyn nhw sut mae'r gyfraith yn gweithredu yn y byd go iawn a sut mae'n gallu helpu pobl sydd mewn angen.
Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gofrestru am y lleoliad gwaith hwn - gwaith sy'n ddigon hyblyg i fyfyrwyr sydd ag amserlen brysur, ac mae'n cynnig 80 awr o brofiad academaidd ac ymarferol. Cysylltwch â Dr Olaoluwa Olusanya i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddoli.