Amdanom ni
"Mae pob ysgol y gyfraith gwerth ei halen wedi'i lleoli mewn lle sy'n ffafriol i astudio yn hytrach na busnes." Yr Athro Thomas Levi, Pennaeth Adran y Gyfraith 1924. (cyfieithiad o'r Saesneg)
Dewiswch ddod yma i astudio, a byddwch yn profi amgylchedd cefnogol fydd yn eich ysgogi ac a fydd yn rhoi boddhad i chi mewn adran ddeinamig, flaengar a chanddi hunaniaeth benodol, profiad helaeth, addysgu rhagorol a gweithgarwch ymchwil deinamig, heb sôn am gefnogaeth llyfrgell a darpariaeth TG ardderchog.
Cewch eich addysgu a'ch arwain gan gymuned o ysgolheigion a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar eich cynorthwyo chi i lwyddo a chyflawni eich potensial. Nid ar hap y mae Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn ail yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru ac yn 3ydd yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024). Mae hyn yn ogystal â bod ar y brig yng Nghymru a Lloegr am Fodlonrwydd Myfyrwyr (ACF 2022).
A minnau wedi bod yn ymarferydd cyfreithiol ers dros ddeng mlynedd ar hugain, rwy’n deall gwerth meithrin sgiliau a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Yn ogystal â dysgu academaidd rhagorol, mae’r adran yn cynnig llawer o gyfleoedd i wneud hyn. Ymhlith y rhain y mae ein Clinig Cyfraith Teulu lle gall myfyrwyr wneud gwaith achos dan gyfarwyddyd cyfreithiwr cymwysedig, ein cymdeithas ymryson weithgar lle gall myfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau eirioli a pharatoi achos, a chyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer ein prosiect ymchwil Dewis/Choice sy’n torri tir newydd wrth ganolbwyntio ar fynd i’r afael â phwnc sy’n prysur ddatblygu’n uchel ei broffil, sef cam-drin yr henoed. Mae'r prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr hefyd yn cynnig cyfleoedd i wrifoddoli. Er enghraifft, rhoddodd y prosiect waith i dros 30 o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant neilltuol i'w paratoi ar gyfer gweithio ar achosion a rhoi cefnogaeth ar-lein, a hynny ar y cyd â'r prosiect 'Both Parents Matter'.
Gall dewis Prifysgol fod yn brofiad dyrys. Ceir dewis eang, ac nid yw bob amser yn rhwydd i ddewis yr un sy’n iawn i chi. Ar ôl dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn astudio’r Gyfraith neu Droseddeg mewn Prifysgol sefydledig mewn rhan brydferth ac unigryw o’r wlad, peidiwch ag edrych yn bellach nag Aberystwyth. Mynnwch gyfle i ymweld â ni ar un o'n Diwrnodau Agored. Edrychaf ymlaen at eich croesawu chi yma.
Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran