Casgliad lles

Poster Darllen yn Well

Mae gan y Llyfrgell amrywiaeth o adnoddau a all eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch i ymdopi â llawer o gyflyrrau iechyd meddwl cyffredin neu deimladau a phrofiadau anodd. I’ch rhoi ar ben ffordd, rydym wedi llunio'r rhestr Darllen yn Well sy'n cynnwys llyfrau ac e-lyfrau sydd ar gael o'r Llyfrgell.

Mae llawer o'r teitlau yn ein rhestr yn ymddangos yng nghasgliad y Reading Agency Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl - llyfrau hunangymorth sy'n cwmpasu materion megis gorbryder, iselder, problemau delwedd y corff, galar a straen.

Yn ogystal â'r rhain, mae ein casgliad Darllen yn Well yn cynnwys llyfrau ffuglen, barddoniaeth a theitlau sy'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau unigryw sy'n wynebu pobl anabl a phobl mewn cymunedau LGBTQ+ a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol.

Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys dolenni i ddetholiad o gyrsiau ar-lein Linkedin Learning ar themau Gwrth-Hiliaeth, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Lles a Hunan-Ofal sydd ar gael am ddim i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth eu dilyn.