Adborth Gweithdy Syniadau Sŵn mewn llyfrgelloedd
Roedd ein gweithdy rhyngweithiol yn gofyn i chi feddwl am sut rydych chi'n teimlo am sŵn yn y llyfrgell.
Dyma beth ddysgon ni
1. Rydym am gael mannau distaw a rhai swnllyd i astudio
Mae myfyrwyr eisiau mannau astudio distaw ond maen nhw hefyd eisiau mannau i gydweithio ac i siarad gyda'u ffrindiau
Beth gallwn ni ei wneud
Mae 'parthau sŵn' gwahanol ar bob llawr o Lyfrgell Hugh Owen
-
Mae Lefelau D ac E ar gyfer astudio'n dawel, gan gynnwys mewn ystafelloedd grŵp
-
Mae Ystafell Iris de Freitas ar gyfer cydweithio
-
Mae Lefel F ar gyfer astudio'n ddistaw - dim siarad!
Dywedasoch fod angen inni wneud y parthau hyn a'r rheolau yn gliriach
2. Rydym yn hoffi cyfathrebu
Dywedodd y myfyrwyr yr hoffen nhw gael eu hatgoffa o reolau'r llyfrgell gan staff y llyfrgell, drwy arwyddion yn y llyfrgell, drwy e-byst, ar gefndiroedd cyfrifiaduron, ar fapiau a thrwy arwyddion digidol
Diolch i'ch syniadau mae gennym rai awgrymiadau am bethau y gallwn eu treialu yn Llyfrgell Hugh Owen i wneud pethau'n gliriach.
Yn anffodus mae'r robo-swyddog diogelwch sy'n taflu pobl swnllyd allan o'r llyfrgell yn ormod o risg. Ac mae'r gwylanod yn gwrthod mynychu'r hyfforddiant gorfodol, felly ni fyddant yn gallu patrolio'r ardaloedd. Fel mae'n digwydd, nid ydym yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn pobl swnllyd... ond mae potensial i'r tabard 'Person Mwyaf Swnllyd y Llyfrgell'!
3. Rydym wrth ein boddau gyda'r llyfrgell - a'n hastudiaethau!
Yn ystod gweithgareddau'r gweithdy, disgrifiodd myfyrwyr y llyfrgell fel lle 'diogel', 'llonydd' a 'hamddenol' llawn 'gwybodaeth' a 'help'. Rydym yn hapus iawn gyda hynny!
Mae myfyrwyr wrth eu bodd â'r golygfeydd o Ystafell Iris de Freitas a'i hawyrgylch 'bywiog' ac rydych chi wir yn mwynhau eich astudiaethau. Pwy feddylia!
Does neb eisiau cael stŵr am dorri rheolau - ac nid yw staff y llyfrgell eisiau dweud y drefn wrthoch chi ychwaith. Rydym wrth ein bodd yn eich gweld yn defnyddio'r llyfrgell.
Mae ein gofod a'n hadnoddau yn gyfyngedig, ond mae llyfrgellwyr a myfyrwyr yn arloesol. Gallwn weithio gyda'n gilydd i wneud y llyfrgell yn well i bawb.
Diolch am eich adborth
Os oes gennych unrhyw adborth neu awgrymiadau, gallwch eu rhannu â ni ar unrhyw adeg ar adborth-gg@aber.ac.uk neu drwy ein ffurflen ar-lein yma.