Beth yw barn myfyrwyr am LinkedIn Learning? 2023
Neidiwch i fersiwn testun o'r ffeithlun
Beth yw barn myfyrwyr Aberystwyth am LinkedIn Learning?
Beth oedd eich cymhelliad i gofrestru ar LinkedIn Learning?
- "Roedd gen i ddiddordeb mewn astudio pynciau y tu hwnt i fy maes i"
- "Am ei fod am ddim i fyfyrwyr prifysgol"
- "Cael cyngor gan bobl sydd yn y diwydiant yn barod"
- "Oherwydd gallai derbyn tystysgrif y gallech chi ei chyhoeddi ar eich profil LinkedIn am gwblhau cyrsiau wella eich cyflogadwyedd"
- "Datblygu sgiliau gyrfa yn fy mlwyddyn olaf"
- "Oherwydd ei fod mor hawdd ei ddefnyddio"
Pa gynnwys wylioch chi neu wrandoch chi arno?
- "Menywod yn y gweithle"
- "Dadansoddi data"
- "awgrymiadau cyfweliad"
- "Ymwybyddiaeth feddylgar"
- "Meithrin a chynllunio gyrfa"
- "Meithrin tîm"
- "Arweinyddiaeth a rheoli"
- “Amrywiaeth a chynhwysiant"
- "Meddwl strategol"
- "Ysgrifennu creadigol"
- "Cyfrifiadura cwmwl a pheirianneg meddalwedd"
- "Iaith raglennu Java"
- "Cefnogaeth gyda meddalwedd Microsoft fel Excel"
- "Technegau gwerthu"
Ydy’r cynnwys yn berthnasol i chi fel myfyriwr?
- "Ydy, gan fod llawer o bynciau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yr hoffech chi eu cwmpasu a dyna lle mae LinkedIn Learning yn ddefnyddiol"
- "Mae’n ymwneud mwy â symud ymlaen at yrfa ar ôl gadael y brifysgol. Mae’n dda bod ar y blaen a chael syniad o sut beth yw astudiaethau gyrfa"
- "Mae llawer o gymorth a chyngor cyffredinol sy’n arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sydd heb ddigon o amser neu ddim am ddilyn sgiliau astudio neu bwnc penodol gyda darlithydd"
- "Rwyf i wedi dod ar draws cynnwys sy’n ymwneud â fy ngradd"
- "Rwy’n credu y byddai pobl yn ei gael yn ddefnyddiol os ydyn nhw’n dilyn interniaethau gan ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer paratoi at waith"
- Ydy, i fyfyrwyr a darlithwyr."
Ydych chi’n ei gael yn haws ei ddefnyddio a llywio drwyddo?
- "Mae’n hawdd ei ddefnyddio a llywio drwyddo, does dim byd yn gymhleth"
- "Mae’r dewislenni a nodweddion eraill rhyngwyneb y defnyddiwr yn fanwl iawn ac yn hawdd llywio drwyddynt"
- "I mi mae LinkedIn Learning llawer yn fwy coeth [na phlatfformau eraill] ac mae rhyngwyneb y defnyddiwr yn llawer mwy cyfeillgar"
- "Y ffaith ei fod mor hawdd ei ddefnyddio yw un o’r rhesymau y penderfynais i gofrestru"
Pam fyddech chi’n argymell LinkedIn Learning i fyfyrwyr eraill?
- "Oherwydd does dim byd i’w golli, a gallwch chi wastad ddysgu rhywbeth newydd"
- "Mae ansawdd y cwrs yn uchel iawn. Mae’n trosglwyddo gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol yn gyflym- does dim byd gwell"
- "Mae’n adnodd gwirioneddol ddefnyddiol i’w gael y tu allan i’r dosbarth"
- "Mae’n ffurf drefnus ar ddysgu sydd ddim i’w chael yn unman arall"
- "Rhoddodd gipolwg newydd i fi ar bethau nad oeddwn i wedi’u dysgu yn y Brifysgol"
Cynhyrchwyd gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr. Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).