Dadansoddi ac Ymateb
Neidiwch i fersiwn testun o'r ffeithlun
Arolwg Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth 2023 Adborth
Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr gwblhau ein Harolwg Defnyddwyr ym mis Tachwedd bob blwyddyn.
- Beth sy'n cael ei wneud yn dda?
- Beth sydd angen ei wella?
Rydym yn defnyddio'r canlyniadau i ddatblygu'n gwasanaethau.
Ymatebwyr yr Arolwg
Roedd y nifer o ymatebion i'r Arolwg ar i lawr yn 2023 o'i chymharu â'r flwyddyn gynt yn anffodus.
Cawsom 219 yn llai o ymatebion eleni na'r llynedd:
- 315 o atebwyr yn 2023
- 534 o atebwyr yn 2022
Staff y Brifysgol, myfyrwyr is-raddedig, myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr dysgu o bell a myfyrwyr dysgu gydol oes a gwblhaodd ein harolwg
Staff Gwasanaethau Proffesiynol 41
Staff Academaidd 26
Myfyrwyr Israddedig 192
Myfyrwyr Uwchraddedig a ddysgir 24
Myfyrwyr Uwchraddedig ymchwil 24
Myfyrwyr o Bell 8
Y Pum Grŵp / Adran gyda'r Nifer Uchaf o Ymatebwyr
Gwyddorau Bywyd 59
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear 25
Staff Gwasanaethau Proffesiynol 22
Cyfraith a Throseddeg 20
Busnes 19
Gwasanaethau sy'n Rhagori
Gwasanaethau ebost
Roedd mwy nag 92% o'r myfyrwyr a ymatebodd ac 88% o'r staff yn fodlon neu'n fodlon iawn ar wasanaethau ebost y Brifysgol
Oriau Agor Llyfrgell Hugh Owen
Roedd mwy nag 92% o'r myfyrwyr a ymatebodd a 78% o'r staff yn fodlon neu'n fodlon iawn ar oriau agor y llyfrgell
Roedd yr ymatebwyr yn arbennig o hapus gyda chadw mannau astudio ar agor yn ystod y gwyliau
Gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth staff GG
Roedd mwy nag 78% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn ar barodrwydd staff Gwasanaethau Gwybodaeth i helpu
Roedd mwy nag 72% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn ar ansawdd y gwasanaethau cwsmeriaid a gafwyd gan ein staff
Eich Sylwadau
"Diolch yn fawr am bob cefnogaeth wrth ddefnyddio offer a’r gwasanaeth. Cefais gymorth amserol a chymwynasgar gan eich tîm bob tro rwyf wedi holi am gymorth."
"Mae'r llyfrgellwyr yn gwneud gwaith gwych gyda myfyrwyr ac yn cefnogi staff gyda'u hymchwil hefyd. Maent yn ddolen bwysig wrth readru gwybodaeth i staff dysgu ynghylch datblygiadau GG sy'n fanteisiol i fyfyrwyr."
"Popeth yn gret! Diolch"
Dadansoddiad o'r bylchau
Boddhad - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried eu boddhad gyda'n gwasanaethau
Pwysigrwydd - Rydym yn gofyn i'n defnyddwyr ystyried pwysigrwydd ein gwasanaethau iddynt
Wedyn, rydym yn defnyddio'r canlyniadau i flaenoriaethu gwelliannau.
Os yw'r cyfraddau boddhad yn is na'r cyfraddau pwysigrwydd, mae'n bosibl nad yw'r gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau.
Gwasanaeth | |
Libguides | 5.25 |
Clicio a Chasglu | 7.88 |
Oriau agor | 3.27 |
Argraffu | .99 |
Mannau astudio tawel | -10.20 |
Cwestiynau cyffredin | -4.55 |
Ein Blaenoriaethau ar gyfer 2024
Ystafelloedd astudio'r Llyfrgell
Rydym yn ymchwilio i ffyrdd o wella'r system archebu a'r defnydd o ystafelloedd astudio'r Llyfrgell.
Os ydych wedi cadw ystafell astudio ond nad oes ei hangen arnoch mwyach, a wnewch chi ganslo drwy ebostio gg@aber.ac.uk os gwelwch yn dda. Byddai hynny'n rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.
Niferoedd o Lyfrau ac eLyfrau
Rydym yn prynu llyfrau ar gyfer y llyfrgell yn seiliedig ar argymhellion gan staff academaidd trwy restrau darllen. Mae gennym bolisi 'Digidol yn Gyntaf' lle rydym yn prynu copi electronig o lyfr lle mae'n fforddiadwy ac ar gael (nid yw pob llyfr ar gael yn electronig). Lle nad oes elyfr ar gael, rydym yn prynu copïau print.
Bwriwch eich pleidlais yma: llyfr neu elyfr?
Rydym yn prynu deunydd rhestr ddarllen yn unol â chymhareb a amlinellir yn ein Polisi Rhestr Darllen oherwydd cyllideb gyfyngedig. Ar gyfer testunau hanfodol mae hyn yn gweithio allan i un copi o lyfr ar gyfer pob 15 myfyriwr ar fodiwl.
Rydym yn monitro'r defnydd o'n llyfrau ac yn nodi lle mae galw sylweddol yn cronni trwy geisiadau. Rydym yn ceisio ymateb i'r galw am y llyfrau hyn ar yr un pryd â blaenoriaethu defnydd o'n cyllideb gyfyngedig.
Os cewch unrhyw anhawster wrth gael gafael ar adnoddau, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc
Blackboard Learn Ultra a Turnitin
Mae'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio i sicrhau mwy o gysondeb rhwng modiwlau ar Bb Learn Ultra drwy:
-
Creu modiwlau'n wag ar gyfer 2024-25. Mae rhagor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i'r broses hon i'w gweld ar y blog.
-
Arddangos yr arferion dysgu gorau o rownd ddiweddaraf Gwobr Cwrs Eithriadol.
-
Annog adrannau i fabwysiadu dulliau wedi'u safoni o drefnu cynnwys mewn modiwlau.
-
Tynnu sylw at y swyddogaeth chwilio fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym.
-
Hyrwyddo'r defnydd o swyddogaethau lefel uwch fel Modiwlau Dysgu a chyflwyniad Dogfen i greu modiwlau sy'n fwy deniadol i’r llygad.
-
Canolbwyntio ar brofiad myfyrwyr o Blackboard Learn Ultra yn ystod Wythnos Sampl nesaf y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Turnitin
Rydym yn adolygu ein hoffer E-gyflwyno yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion staff a myfyrwyr. Mae gennym offer eraill ar gael fel Blackboard Assignments, profion Blackboard, ac offer wedi'u graddio y mae croeso i hyfforddwyr eu defnyddio.
Rydym yn cydweithio gyda Turnitin i fynd i'r afael â materion a darparu adborth a cheisiadau gwella.
Os ydych chi'n profi anawsterau wrth farcio neu'n cyflwyno i Turnitin, cysylltwch â ni drwy eddysgu@aber.ac.uk.
Gwybodaeth am Wasanaethau Gwybodaeth!
Rydym wedi ei gwneud hi'n haws ichi gael y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am y llyfrgell a gwasanaethau a systemau TG
-
Mae gan Newyddion GG yr holl fanylion am ddigwyddiadau a datblygiadau Gwasanaethau Gwvbodaeth
-
Diweddariadau GG yw'r lle i fynd am fanylion ynghylch ein systemau a'n gwasanaethau TG. Tanysgrifiwch i dderbyn hysbysiadau ebyst neu ddilynwch y ffrwd ar X yma
Rydym yn gweithio ar ffyrdd o wella cyfathrebu am ein gwasanaethau o hyd, felly gwyliwch y gofodau hyn
Cysylltu â Ni
Rydym am glywed gennych
- Galw - 01970 62 2400
- Sgwrsiwch Nawr ar ein tudalennau gwe
- ebost gg@aber.ac.uk