Dysgu ac Addysgu
Gellir canfod manylion llawn unrhyw reoliadau neu weithdrefnau’r Brifysgol ar wefan y Gofrestrfa Academaidd
Llawlyfrau
Llyfrgelloedd
Cyfresi Seminarau
Asesu
Estyniadau, Amgylchiadau Arbennig ac ailsefyll
Os oes rheswm anorfod sy’n golygu na ellir cyflwyno gwaith cwrs mewn pryd, mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais am estyniad trwy gwblhau’r Ffurflen Gais am Estyniad i Ddyddiad Cyflwyno Gwaith Cwrs. Mae'r ffurflen gais ar wefan y Brifysgol o dan 3.13 Templedi: mae’n rhoi cyfarwyddiadau manwl ar yr amgylchiadau lle y bydd posibilrwydd o ganiatau estyniadau, hyd yr estyniadau, a beth i’w wneud os nad oes modd caniatáu estyniad neu os gwrthodir y cais.
Swyddogion Estyniadau wedi'u rhestru yn https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/officers/
Ffurflen a Pholisi Amgylchiadau Arbennig
Os oes gennych Amgylchiadau Arbennig, dylid cwblhau’r ffurflen isod a’i dychwelyd i inpstaff@aber.ac.uk
- Ffurflen a Pholisi Amgylchiadau Arbennig (Cliciwch ar y ddolen, sgroliwch i lawr i 3.13 Templadau, sgroliwch i lawr i Ffurflen Amgylchiadau Arbennig)