Derbyn
Dylai ymgeiswyr sy'n ceisio am le ar raglenni israddedig wneud cais drwy UCAS. Y cynnig arferol er mwyn cael eich derbyn yw 300 o bwyntiau tariff UCAS a rhaid iddynt gynnwys o leiaf un gradd B 'Lefel A'. Derbynnir pob pwnc Uwch Gyfrannol ac Uwch, gan gynnwys Astudiaethau Cyffredinol/Meddwl Beirniadol, os ydynt wedi eu nodi ar y ffurlfen UCAS. Gall myfyrwyr rhyngwladol sydd heb y cymwysterau hyn astudio'r Dystysgrif Ryngwladol Sylfaen ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gellir cael mwy o wybodaeth am ofynion derbyn ar-lein neu drwy gysylltu ag Elaine Lowe, Gweinyddydd Academaidd yr Adran
Mae'r Adran yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed (ymgeiswyr sydd dros 21 wrth ddechrau cwrs israddedig) yn ogystal â'r rheiny heb gymhwysterau mynediad confensiynol. Fel arfer caiff yr ymgeiswyr hyn eu cyfweld fel rhan o'r broses dderbyn, ac ad-delir y gost gan Brifysgol Aberystwyth.
Asesir pob ymgeisydd ar sail hawliau cyfartal. Dewisir wedi ystyried pob agwedd o'r cais, gan gynnwys cymhelliad yr ymgeisydd, potensial academaidd, a chanlyniadau arholiad. Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion yn yr iaith Saesneg. Ymhob achos, mae'r Adran yn gynhwysol a hyblyg o ran gofynion mynediad. Mewn sawl ystyr, y cymhwyster pwysicaf yw'r awydd i ddysgu ac ymrwymiad i gael gradd.
Mae ein safonau cymhwysedd fel a ganlyn:
1. Angen y gallu neu'r potensial i dderbyn, deall a defnyddio, ym mha bynnag ffordd*, y wybodaeth am y llenyddiaeth academaidd a'r dadleuon o fewn maes yr astudiaeth.
2. Angen y gallu neu'r potensial i gynhyrchu, ym mha bynnag ffordd*, draethodau rhesymegol, traethodau hir, a gweithiau ysgrifenedig eraill sy'n cynnwys dadleuon a dadansoddiadau sy'n cael eu cefnogi gan dystiolaeth berthnasol o'r llenyddiaeth academaidd.
3. Angen y gallu neu'r potensial i gyfrannu, ym mha bynnag ffordd*, i drafodaethau grŵp ynglŷn â'r llenyddiaeth academaidd, y dadleuon a'r wybodaeth o fewn maes yr astudiaeth.
*Gellir defnyddio, er enghraifft, ddehonglydd iaith arwyddion, amanuensis, darllenydd sgrîn neu dechnoleg gyfrifiadol o fath arall, amser ychwanegol, Braille, recordio darlithoedd/seminarau, dulliau amgen o asesu, llyfrau sain, ac yn y blaen.