Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC
Mae’n bleser gan Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystywth gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr Gwleidyddiaeth a Cysylltiadau Rhyngwladol fydd yn dechrau ym mis Hydref 2025.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uchel gref, neu radd Meistr briodol. Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn bwysig i’r Brifysgol ar bob lefel ac anogir ceisiadau o bob rhan o’r gymuned, waeth bynnag am oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac er mwyn cynyddu nifer yr unigolion a ddenir o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, anogir a chroesawir yn enwedig geisiadau gan ymgeiswyr Prydeinig Du, Prydeinig Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig Prydeinig a phobl Brydeinig sy’n gymysg eu hil.
Am fanylion pellach am sut i ymgeisio i astudio doethuriaeth yn Aberystwyth cysylltwch â Dr Andrew Davenport (acd11@aber.ac.uk), Cyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Croesewir ceisiadau erbyn 12.00 (canol dydd) (GMT) ar 11 Rhagfyr 2024.
Manylion pellach am Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC
Gwobrau ‘agored’ yw’r ysgoloriaethau hyn. Gellir lleoli prosiectau mewn unrhyw faes o wleidyddiaeth ryngwladol lle gall yr Adran ddarparu goruchwyliaeth arbenigol. Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod gallu goruchwylio priodol yn y Brifysgol ac i drafod y cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe'r Adran. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan DTP ESRC Cymru. Efallai y bydd y cynullydd llwybr ar gyfer y llwybr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Dr Andrew Davenport (acd11@aber.ac.uk), yn gallu eich cynghori.