Dr Catrin Wyn Edwards BA, MScEcon, PhD, PGCTHE
Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Manylion Cyswllt
- Ebost: cwe6@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0001-6241-4178
- Swyddfa: 2.04, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Ffôn: +44 (0) 1970 622693
- Gwefan Personol: https://wiserd.ac.uk/research/research-projects/migration-research-wales-network
- Twitter: @catrin_wyn_eds
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: hi / ei
Proffil
Maes arbenigedd Catrin yw mudo, lloches a noddfa, llywodraethiant aml-lefel a chenedlaetholdeb. Mae ei phrosiect ymchwil presennol yn archwilio syniadau o garcharu ('carcerality') mudol yn Ewrop, yn benodol mewn ymdrechion chwilio ac achub ym Môr y Canoldir. Mae ei hymchwil ddiweddaraf wedi'i selio ym meysydd Cymdeithaseg Wleidyddol Ryngwladol, Daearyddiaeth Wleidyddol, Cenedlaetholdeb a Mudo, Dinasyddiaeth ac Astudiaethau Ffiniau. Mae hi wedi gwneud gwaith maes ar fudo, noddfa a charcharu mudwyr yng Nghymru a ledled Ewrop a Gogledd America, ac mae wedi treulio amser fel ysgolhaig gwadd yn EURAC (Bolzano), UQAM (Montréal), Universitat Pompeu Fabra (Barcelona) ac Université de Moncton (Moncton).
Cyd-sefydlodd Catrin y Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru (WISERD) yn 2020. Nod y rhwydwaith yw datblygu ymchwil, ac annog deialog rhwng academyddion mewn sefydliadau yng Nghymru a rhwng academyddion ac ymarferwyr. Mae Catrin wedi cyfrannu at nifer o ddadleuon polisi a thrafodaethau ar integreiddiad ieithyddol mudwyr, adefydlu, noddfa ac ail gartrefi. Yn 2018, dyfarnwyd 'Effaith Eithriadol mewn Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a'r Dyniaethau' i Catrin (gyda Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis).
Mae Catrin yn aelod o 'Grŵp Llywio Integreiddio Mudwyr' Llywodraeth Cymru ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolyn Canadaidd, Minorités linguistiques et société / Linguistic Minorities and Society. Rhwng 2018 a 2024, roedd Catrin yn Ymddiriedolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA).
Cyflwynwyd y wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am eu gwaith yn bwydo i drafodaethau polisi cyfoes ar ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg.
Ar ôl cwblhau PhD yn dwyn y teitl: ‘Cymunedau Iaith Lleiafrifol, Mewnfudo a Pholisïau Iaith mewn Addysg: Astudiaeth Gymharol Ryngwladol’ ym Prifysgol Aberystwyth yn 2013, bu’n ymchwilydd ôl-ddoethurol aml flwyddyn ym Mhrifysgol Ottawa, Ontario. Ymunodd Catrin â’r Adran Gweidyddiaeth Ryngwladol yn 2015, a hynny’n wreiddiol fel darlithydd cyfrwng-Cymraeg gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dysgu
Module Coordinator
- GW12520 - Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang
- GW30040 - Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
- GQ20920 - Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
- GQ30920 - Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol
- GQ33720 - Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
- GQ23720 - Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
- IQ23720 - Politics in Diverse Societies
- IQ33720 - Politics in Diverse Societies
Lecturer
- PGM2210 - Research Skills and Personal Development (Arts and Humanities) (2210)
- IP12520 - Globalization and Global Development
- GW12920 - Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
- IP12420 - Exploring the International 1: Central Concepts and Core Skills
- GW20120 - Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau
- GW12620 - Y Tu ôl i'r Penawdau
- GW30040 - Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
- GW12420 - Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd
Grader
Coordinator
- GW30040 - Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
- GQ33720 - Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
- GQ23720 - Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
- IQ33720 - Politics in Diverse Societies
- IQ23720 - Politics in Diverse Societies
- GW12520 - Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang
- GQ30920 - Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol
- GQ20920 - Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
Moderator
Cyfrifoldebau
Cyfarwyddwr Astudiaethau Cymraeg
Aelod o Banel Moeseg Ymchwil PA
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Llun 1.30-2.30
- Dydd Iau 3.30-4.30