Dyma le eithriadol i astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Rydym yn un o'r deg uchaf ym Mhrydain am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol (94% yn NSS 2020) ac mae ein rhagoriaeth ymchwil yn ein rhoi yn y deg adran ymchwil uchaf ym Mhrydain (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ar y brig ym Mhrydain am gyrsiau sy'n ysgogi myfyrwyr yn ddeallusol gyda 99% o'n myfyrwyr yn cytuno (NSS 2020).
Yn y 5 uchaf ym Mhrydain am Ansawdd y Dysgu (2il) a Phrofiad Myfyrwyr (3ydd) ym maes Gwleidyddiaeth, a'r deg uchaf am Ansawdd Ymchwil (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2021).
Yn y 5 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr â'r dysgu ar y cwrs Gwleidyddiaeth (NSS 2020 a Chanllaw Prifysgolion Da y Guardian)
Yn y deg uchaf ym Mhrydain am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (4ydd) ac ansawdd ymchwil (7fed) (Complete University Guide 2021)
Y gorau yng Nghymru a'r 7fed ym Mhrydain am ragoriaeth ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu a herio'r ffordd yr ydym yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Mynd i'r afael â heriau byd eang, o'r ardal leol i’r blaned gyfan, o safbwyntiau amrywiol.
Dewis da a hyblygrwydd o ran modiwlau er mwyn i chi allu teilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau.
Rhwydweithiau dros bedwar ban byd a chysylltiad ag ymarferwyr.
Aberystwyth yw'r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr ers pum mlynedd yn olynol, ac mae bellach ar y brig ymysg prifysgolion Prydain.
Wedi ennill safon Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu yn 2018.
Mae 96.8% o'n graddedigion mewn swydd neu'n astudio ymhellach 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018)
Mae 95% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014)
Cymuned fywiog, agos, gosmopolitan mewn tref ddiogel, fforddiadwy a chyfeillgar ger y môr.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,
Prifysgol Aberystwyth,
Penglais,
Aberystwyth,
SY23 3FE
Cymru
Ffôn: 01970 628563 Ffacs: 01970 622709 Ebost: gwleidyddiaeth@aber.ac.uk