Ein GweithdaiAber: Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Rydym yn cynnig sesiynau rhyngweithiol sy'n agored i ddysgwyr heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r pwnc, yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb yn y maes. Mae rhai o’n gweithdai yn cyffwrdd ar bynciau sy’n berthnasol i fanyleb Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ar gyfer ymgeiswyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru. Ond, nid oes angen i ddysgwyr fod yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr ysgol neu’r coleg. Mae disgyblion sy’n astudio pynciau megis Daearyddiaeth, Hanes, Seicoleg, Cymdeithaseg a’r Gyfraith hefyd yn elwa o’n gweithdai.
Fel arfer rydym yn cynnig rhain fel sesiynau cwbl ryngweithiol, awr o hyd, ond gallwn addasu ein fformat i weddu i'ch anghenion. Gallwn gyflwyno'r sesiynau wyneb yn wyneb, ond mae hyn yn dibynnu ar argaeledd. Yn yr un modd, gallwn gynnal y sesiynau yn Aberystwyth, lle bo adnoddau'n caniatáu.
Rydym hefyd yn hapus i gynnig sgyrsiau am astudio gwleidyddiaeth ac os ydych yn edrych am sesiwn bwrpasol, rydym yn fodlon ystyried datblygu sesiwn i chi, yn dibynnu ar argaeledd staff.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Catrin Wyn Edwards, Cyfarwyddwr Astudiaethau Cymraeg yr Adran.