Adnoddau i Ysgolion a Cholegau
Adnoddau astudio i gefnogi myfyrwyr Safon Uwch sy'n astudio Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Dyma becyn o adnoddau astudio a gynhyrchwyd er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio’r cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Trefnir yr adnoddau ar ffurf dau e-lawlyfr sy’n cynnwys cyfres o unedau byr sy’n cyffwrdd ar wahanol agweddau o faes llafur CBAC. Ceir hefyd gyfres o glipiau fideo byr.
- E-lawlyfr 1 - Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol
- E-lawlyfr 2 - Cysyniadau Gwleidyddol Allweddol
Staff Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth sydd wedi cynhyrchu’r deunydd ac mae rhai cyfranwyr allanol wedi cyfrannu at rai adnoddau unigol. Bu ymgynghori hefyd a swyddogion pwnc perthnasol o CBAC ar hyd y daith. Ariannwyd y prosiect gan grant o Gronfa Datblygiadau Strategol a Phrosiectau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r e-lawlyfrau yn ymateb i’r bwlch cyfredol mewn deunydd astudio cyfrwng Cymraeg ym maes gwleidyddiaeth. Nid cynhyrchu gwerslyfr swmpus oedd y bwriad, ond yn hytrach ddatblygu adnoddau sy’n ymateb i’r angen am wybodaeth graidd, am ymarferion ar gyfer disgyblion a chanllawiau i athrawon.
Deall noddfa, ffoaduriaid a gwrthdaro
Mae’r adnoddau hyn yn canolbwyntio ar noddfa yng Nghymru, rhyfel Rwsia yn Wcráin, rhyfel a gwrthdaro, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda’r nod o roi’r offer i addysgwyr drafod materion sensitif a chyfoes gydag amrywiaeth o grwpiau oedran (4 - 18 oed). Gellir defnyddio’r gweithgareddau dysgu i ysgogi trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion megis gwrthdaro, heddwch, mudo, a ffiniau ymhlith disgyblion i’w helpu i ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd.