Arweinydd grŵp ‘arloesi democrataidd’ newydd y llywodraeth o Aberystwyth
Dr Anwen Elias
20 Tachwedd 2024
Mae academydd o Aberystwyth, Dr Anwen Elias, wedi’i phenodi’n Gadeirydd Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Mae Dr Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn arbenigwraig ar wleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol. Mae hi hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr ar Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).
Buodd hi’n Gomisiynydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024.
Argymhellodd adroddiad y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru “gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill.”
Ymysg yr enghreifftiau o arloesi democrataidd mae: cynulliadau bach i’r cyhoedd, fel Cynulliadau Hinsawdd neu Reithgorau Dinasyddion; cyllidebu cyfranogol; a chyfrannu torfol digidol.
Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth:
“Anrhydedd oedd cael fy ngwahodd i gadeirio’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, ac i arwain ar ei waith o ystyried ffyrdd newydd o gryfhau democratiaeth yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gall y grŵp chwilio am gyfleoedd newydd i wella cyfranogiad dinasyddion at wneud penderfyniadau, a hynny mewn partneriaeth â’r rheiny sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd ledled Cymru.”
Gwnaed y cyhoeddiad am benodiad Dr Anwen Elias gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies AS ar 19 Tachwedd 2024. Dywedodd:
“Argymhellodd Adroddiad Terfynol [y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru] y dylid creu panel arbenigol i gynghori Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar ddefnyddio rhagor o arloesi democrataidd ac ennyn dinasyddion i gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus. Er mwyn datblygu'r gwaith hwn, rwyf wedi penodi Dr Anwen Elias yn gadeirydd Grŵp Cynghori newydd ar Arloesi Democratiaeth. Bydd aelodau ehangach y Grŵp yn cael eu penodi maes o law drwy gystadleuaeth agored.
“Un o Gomisiynwyr y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru oedd Dr Anwen Elias. Yn y rôl honno, cyfrannodd arbenigedd penodol ym maes ymgysylltu dinasyddion, yn enwedig wrth sefydlu'r paneli dinasyddion a dylunio'r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Drwy ei phrofiad fel Comisiynydd, bydd yn sicrhau y bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn parhau i lywio gwaith y Grŵp.”
Dr Anwen Elias
Mae Dr Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, gan raddio o Brifysgol Caergrawnt a’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, Fflorens, lle y cwblhaodd ddoethuriaeth yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol.
Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol, a chyfranogiad dinasyddion mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd.
Mae gan Dr Elias wybodaeth helaeth am arloesi democrataidd ledled y byd ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn defnyddio dulliau creadigol i hybu cyfranogiad a thrafodaeth gan ddinasyddion.