Ymchwil newydd ar sut mae iaith yn helpu i integreiddio newydd-ddyfodiaid

O'r chwith i'r dde:  Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe, yr Athro Leigh Oakes o Brifysgol y Frenhines Mary yn Llundain a Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth.

O'r chwith i'r dde:  Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe, yr Athro Leigh Oakes o Brifysgol y Frenhines Mary yn Llundain a Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth.

13 Awst 2024

Mewn cyfnod o fudo cynyddol, beth yw'r dulliau’r gorau o integreiddio newydd-ddyfodiaid i iaith y wlad sy’n eu croesawu?

Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw astudiaeth arloesol a ariennir drwy grant ymchwil uchel ei fri gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Bydd tîm o ymchwilwyr yn dechrau gweithio ar y prosiect ym mis Medi 2024, dan arweiniad yr Athro Leigh Oakes o Brifysgol y Frenhines Mary yn Llundain a chan gynnwys Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ogystal ag arbenigwyr polisi iaith o Brifysgol Abertawe a Sefydliad Max Planck yn Göttingen yn yr Almaen.

Dros gyfnod o dair blynedd, byddan nhw’n craffu ar bolisïau, profiadau a safbwyntiau ar integreiddio ieithyddol yng Nghymru, Lloegr a Quebec.

Dywedodd yr Athro Leigh Oakes o’r Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain:

“Mewn oes o fudo cynyddol, mae dysgu iaith y gymuned y mae pobl yn symud iddi yn aml yn cael ei ystyried yn allweddol ar gyfer integreiddio llwyddiannus. Fodd bynnag, ychydig o sylw a roddwyd i oblygiadau ymarferol a moesol integreiddio ieithyddol i newydd-ddyfodiaid a’r cymunedau sy’n eu croesawu, gan gynnwys mewn lleoliadau lle gall mwy nag un iaith weithredu fel y cyfrwng ar gyfer integreiddio.

“Trwy ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol arloesol, bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â bylchau sylweddol mewn ysgolheictod i ddarparu’r astudiaeth systemig gyntaf o foeseg integreiddio ieithyddol mewn cymdeithasau democrataidd.”

Dywedodd Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae gan ymchwilwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth hanes cryf o gyfrannu at drafodaethau polisi iaith ar lefel academaidd a pholisi - yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol - ac edrychwn ymlaen at ddod â’r arbenigedd yma at y prosiect ymchwil Leverhulme.

“Bydd cymharu polisïau a phrofiadau sy’n ymwneud ag integreiddio ieithyddol yng Nghymru a Lloegr yn arbennig o ddefnyddiol o ystyried sefyllfa fwyafrifol y Saesneg ochr yn ochr â sefyllfa leiafrifol y Gymraeg, ac ymdrechion diweddar Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’u pwerau i ddatblygu ymagwedd tuag at integreiddio ieithyddol sy’n fwriadol yn wahanol iawn i’r hyn gaiff ei arddel gan Lywodraeth y DG yn Lloegr.

“Ein gobaith yw y bydd modd dadansoddi’r gwersi gaiff eu dysgu drwy ein hymchwil a’u rhoi ar waith mewn llefydd eraill. Er enghraifft, i ba raddau y dylid disgwyl i newydd-ddyfodiaid ddysgu iaith neu ieithoedd y wlad y maen nhw’n symud iddi, beth yw ystyriaethau moesegol integreiddio ieithyddol, a beth yw’r goblygiadau ymarferol i addysg, gofal iechyd a gwasanaethau eraill o ran anghenion ieithyddol newydd-ddyfodiaid?”

Bydd dau fyfyriwr PhD hefyd yn cael eu penodi i weithio ar y prosiect, y naill ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r llall ym Mhrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain.