Prosiect Prifysgol Aberystwyth i astudio’r gweithredu ar yr hinsawdd yn yr Amazon
Arlywydd Brasil, Luiz Inácio Lula da Silva (Credyd llun: Palácio do Planalto {cc-by-2.0})
11 Gorffennaf 2024
Mae academydd o Aberystwyth yn arwain tîm rhyngwladol i edrych ar y rhan sydd gan sefyllfa Coedwig Law yr Amazon ym maes gwleidyddiaeth yr hinsawdd a lle hynny mewn astudiaethau academaidd ynglŷn â chysylltiadau rhyngwladol.
Ym mis Tachwedd 2025, bydd dinas Belém do Pará yn yr Amazon ym Mrasil yn cynnal Cynhadledd Partïon Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP30). Dyma fydd y tro cyntaf i'r Gynhadledd gael ei chynnal yn yr Amazon.
Er mai trafodaethau rhwng llywodraethau yw cyfarfodydd hinsawdd rhyngwladol y COP, maent wedi dod yn fan cyfarfod gwleidyddol canolog i lu o grwpiau sy'n ceisio dylanwadu ar y gweithredu ar yr hinsawdd.
Bydd Dr Hannah Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn arwain tîm rhyngwladol o ymchwilwyr a fydd yn dilyn llywyddiaeth Brasil yn y COP. Byddant yn cofnodi ac yn cefnogi gweithgareddau pedwar grŵp diddordeb allweddol yn y cyfnod cyn y digwyddiad - sef llywodraeth Brasil, gwyddonwyr hinsawdd, Brodorion a grwpiau ieuenctid sy’n ymgyrchu dros yr hinsawdd ym Mrasil.
Dywedodd Dr Hughes, Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae’r rhan y mae’r Amazon yn ei chwarae mewn gwleidyddiaeth hinsawdd yn bwysig, a bydd yn penderfynu pa werth a roddir ar y Goedwig Law a sut y gweithredir i’w diogelu yn y dyfodol. Mae’r ffaith mai Brasil sy’n cynnal COP30 yn rhoi'r Amazon wrth galon yr ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd, yn llythrennol, ac mae’n gyfle astudio unigryw.
"Byddwn yn gweithio gyda grwpiau diddordeb allweddol i gofnodi hanes eu cyfranogiad yn y cyfnod cyn COP30, nodi eu hamcanion a'u cynorthwyo i wireddu eu strategaethau i ddiogelu coedwig law yr Amazon a'u dyfodol eu hunain mewn hinsawdd sy'n newid."
Bydd y prosiect yn dechrau gyda gweithdy, a fydd yn cynnwys partneriaid y prosiect a chynrychiolwyr o’r pedwar grŵp allweddol, ym Mhrifysgol Ffederal Pará ym Melém ym mis Awst 2024.
Nod y tîm ymchwil yw y bydd ei ddull cydweithredol a chyfranogol yn arwain at gyd-greu gwybodaeth a strategaethau a fydd yn arwain at wleidyddiaeth hinsawdd sy'n fwy cyfeillgar i goedwigoedd.
Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu rhannu gan dîm y prosiect a grwpiau allweddol yn ystod COP30 trwy ddigwyddiadau ochr swyddogol, bythau a chyflwyniadau yn y pafiliwn. Bydd yr adborth a gesglir o’r gweithgareddau hyn a'r drafodaeth yn llywio allbynnau terfynol y prosiect.
Mae'r prosiect ymchwil hefyd yn ceisio ymgorffori gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Goedwig Law, a'r rhan y mae’n ei chwarae mewn penderfyniadau byd-eang yn ymwneud â’r hinsawdd, i astudiaethau academaidd ynglŷn â Chysylltiadau Rhyngwladol, er mwyn cynyddu perthnasedd y ddisgyblaeth academaidd i fyfyrwyr ac ysgolheigion yn Ne’r Byd.
Un o allbynnau'r prosiect fydd gwerslyfr newydd ar Gysylltiadau Rhyngwladol a fydd yn trafod cymhlethdod gwleidyddiaeth yr hinsawdd a chysylltiadau rhyngwladol ac yn edrych ar sut y gall gwybodaeth ac ymarfer wasanaethu'r goedwig law a phawb sy'n dibynnu arno.
Mae’r prosiect wedi derbyn gwobr Cymorth Datblygu Tramor rhyngddisgyblaethol yr Academi Brydeinig (ODA), sy’n werth £288,697 dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys Dr Diana Valencia-Duarte o'r Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, arbenigwr ar gasglu hanes llafar a churadu atgofion; Dr Veronica Korber Gonçalves (Prifysgol Ffederal Rio Grande do Sul, Brasil); Dr Marcela Vecchione-Gonçalves, (Canolfan Uwchefrydiau Amasonaidd (NAEA) Prifysgol Ffederal Pará, Brasil); Dr Cristina Yumi Aoki Inoue (Radboud Universiteit, yr Iseldiroedd); ac Dr Erzsebet Strausz (Prifysgol Canol Ewrop, Vienna).