Rob Cullum yn ennill gwobr cyfnodolyn uchel ei fri

Mae Rob Cullum wedi ennill Ysgoloriaeth Cymanwlad Routledge/The Round Table

Rob Cullum, myfyriwr uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi ennill gwobr uchel ei bri, sef Ysgoloriaeth Cymanwlad Routledge/The Round Table i'r flwyddyn academaidd 2020-21. Dim ond dwy o'r gwobrau hyn a roddir bob blwyddyn; mae'r wobr y mae Rob wedi'i hennill ar agor i holl fyfyrwyr PhD sydd wedi'u cofrestru ym mhrifysgolion y DU.

Ar hyn o bryd mae Rob yn ymchwilydd PhD yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Graddiodd o Brifysgol Monash gydag anrhydedd mewn Hanes, ac ar ôl hynny fe wnaeth radd Meistr mewn Astudiaethau Strategol ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia, lle y cafodd ysgoloriaeth Robert O'Neill 2016. Bu'n intern yn y Sefydliad Rhyngwladol Astudiaethau Strategol yn Singapôr, lle'r oedd yn gweithio ar uwchgynadleddau 'Shangri-La Dialogue' a phrosiect ymchwil i ddeinameg strategol Singapôr yng nghyd-destun yr ymgiprys strategol rhwng UDA a Tsieina. Mae hefyd wedi gweithio i lywodraeth Awstralia.

Ar hyn o bryd mae gwaith ymchwil Rob yn canolbwyntio ar ymateb llyngesau i newid yn yr hinsawdd yn y Deyrnas Unedig, Awstralia a'r Unol Daleithiau, gan geisio deall sut mae'r grymoedd sefydliadol yn llywio ymateb y gwahanol lyngesau.

Mae Rob yn bwriadu defnyddio Ysgoloriaeth Cymanwlad Routledge/The Round Table at nifer o ddibenion. Ei brif nod fydd cynhyrchu darn o waith ymchwil i The Round Table yn cymharu gweithgareddau milwrol a dyngarol Prydain â rhai Awstralia ymhlith gwladwriaethau ynysoedd bychain yn y Caribî a De'r Môr Tawel. Os bydd y sefyllfa iechyd ryngwladol yn caniatáu, bydd hefyd yn gwneud gwaith maes yn UDA er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun i'r darn hwn o waith ac i'w Ddoethuriaeth, drwy gyfweld â swyddogion y llynges ac arbenigwyr yn y maes.

Sefydlwyd  The Round Table yn 1910, yr hynaf o holl gyfnodolion Saesneg ar faterion rhyngwladol, ac mae'n darparu dadansoddiadau a sylwebaeth ar bob agwedd ar faterion rhyngwladol. Y cyfnodolyn hwn yw'r brif ffynhonnell ar gyfer materion polisi sy'n ymwneud â'r Gymanwlad heddiw, a'r rhan y mae'n ei chwarae mewn materion rhyngwladol, gydag erthyglau hefyd ar themâu sydd o ddiddordeb hanesyddol.

Am ragor o wybodaeth, gweler https://www.commonwealthroundtable.co.uk/organisation/studentship-award/

Date: Llun, 05 Hyd 2020 12:32:28 BST