Sesiynau Gwybodaeth Ar-lein
Darganfyddwch fwy am ein Rhaglenni Meistr
10 Chwefror 2021
Ar ddydd Mercher 10 Chwefror bydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein fydd yn rhoi sylw i’n rhaglenni MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol; Rhyfel, Strategaeth a Chudd-wybodaeth; a'n Gradd Ddeuol mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol (gyda Phrifysgol America). Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal am 09: 00GMT neu 17: 00GMT. Gellir cofrestru ar-lein
Trwy astudio gyda ni a byddwch yn:
- Trafod rhai o faterion pwysicaf ein hoes
- Dyfnhau eich dealltwriaeth o wleidyddiaeth ryngwladol.
- Datblygu'r sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn materion rhyngwladol.
- Astudio gyda staff academaidd sy'n cyfuno ymchwil rhyngwladol blaenllaw ag addysgu rhagorol
- Ymuno â chymuned ryngwladol o staff a myfyrwyr sy’n rhoi bri ar gywirdeb academaidd ar y cyd â chyfeillgarwch a chefnogaeth.
- Dod yn rhan o draddodiad deallusol sy'n fwy na chan mlwydd oed.
Taflen wybodaeth ynglŷn â’r sesiynau gwybodaeth MA
Date: Mer, 03 Chwef 2021 12:50:00 GMT