Trafodaeth Bord Gron: 2020 Political Dynamics and Challenges

Ail Drafodaeth Bord Gron i ddechrau’r Semester

Dydd Gwener 2 Hydref 2020

Yn dilyn ein bord gron agoriadol hynod lwyddiannus, gyda dros 100 o bobl yn bresennol ar-lein, yr wythnos hon mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal ei hail Ford Gron i ddechrau'r tymor, bydd yn agored i'n holl israddedigion ac uwchraddedigion. Y pwnc sy’n cael ei drafod yw ‘Dynameg a Heriau Gwleidyddol 2020’. Cynhelir y digwyddiad ar-lein trwy Microsoft Teams 16: 00-17: 30 ddydd Gwener 2 Hydref. Mae gennym bedwar siaradwr o’r adran ei hun: y Dr Lucy Taylor, y Dr Huw Lewis, yr Athro Mustapha Kamal Pasha, a’r Dr Jeff Bridoux. Cadeirir y sesiwn gan ein Pennaeth Adran, y Dr Patrick Finney a'n Cyfarwyddwr Ymchwil yr Athro Milja Kurki. Cadwch lygad ar eich cyfrif ebost am y gwahoddiad i'r digwyddiad ar Teams.

Roedd yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol gyda llawer o gwestiynau a sylwadau gwych. Edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch a chlywed gennych eto.

Date: Gwe, 23 Hyd 2020 10:20:21 BST