Ffair Astudio Uwchraddedig 11 Mawrth 2020

Dysgwch fwy am ein darpariaeth uwchraddedig

11 Mawrth 2020

Mae cofrestru ar agor nawr ar gyfer ffair astudio Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth. Dewch i gael gwybod am ein rhaglenni graddau MA, MPhil a PhD mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd ein staff ar gael yn Ystafell Orllewinol yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a gallwch ddysgu am gyllid, llety a gwasanaethau eraill a darpariaeth y Brifysgol gan y staff sy’n gweithio yn y Ganolfan Ddelweddu. I gofrestru a chael gwybod mwy, ewch i dudalennau Gwe Astudio Uwchraddedig y Brifysgol.

Date: Gwe, 23 Hyd 2020 10:32:00 BST