Diwrnod Ymweld Cyntaf i Ymgeiswyr 2020
Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2020
15 Chwefror 2020
Gwahoddir pawb sy’n gwneud cais i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod i un o'r Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr a gynhelir yn gynnar yn 2020.
Yn ystod y Diwrnodau Ymweld hyn i Ymgeiswyr byddwch yn gallu cael profiad o sesiynau rhagflas 'Dosbarthiadau Meistr', cyflwyniadau, gweithgareddau rhyngweithiol a theithiau. Mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi siarad ag aelod o’r staff academaidd sy'n gweithio ym meysydd eich dewis gynllun gradd. Yn olaf, gallwch hefyd sgwrsio'n anffurfiol ag ystod o staff academaidd eraill a rhai o'n myfyrwyr am sut beth yw astudio a byw yma a chael taith o amgylch yr adran a'r campws.
Mae ein Diwrnod Ymweld cyntaf i ymwelwyr yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 15 Chwefror.
Mae’r Diwrnodau Ymweld eraill i Ymgeiswyr yn cael eu cynnal ar:
Dydd Sadwrn 29 Chwefror
Dydd Sadwrn 21 Mawrth
Dydd Sadwrn 28 Mawrth
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr.
Date: Gwe, 23 Hyd 2020 10:37:19 BST